{"id":9965,"date":"2023-07-18T13:20:17","date_gmt":"2023-07-18T12:20:17","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=9965"},"modified":"2023-07-18T13:20:17","modified_gmt":"2023-07-18T12:20:17","slug":"heriaun-iorwerth-etholiadau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/heriaun-iorwerth-etholiadau\/","title":{"rendered":"Yr heriau&#8217;n wynebu Rhun ap Iorwerth cyn yr etholiadau\u00a0nesaf"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/profiles\/anwen-elias-151519\">Anwen Elias<\/a>, <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/institutions\/aberystwyth-university-999\">Aberystwyth University<\/a><\/em> and <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/profiles\/elin-royles-1453730\">Elin Royles<\/a>, <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/institutions\/aberystwyth-university-999\">Aberystwyth University<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/pobl\/rhun-ap-iorwerth-as\/\">Rhun ap Iorwerth<\/a> yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae&#8217;n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn <a href=\"https:\/\/plaid.cymru\/prosiect_pawb\">adroddiad<\/a> niweidiol a dynnodd sylw at broblemau difrifol o ran diwylliant mewnol y blaid, yn arbennig aflonyddu rhywiol, bwlio a misogynistiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Blaenoriaeth ddi-oed, sydd wedi ei chydnabod gan ap Iorwerth wrth ddod i&#8217;r swydd, yw gweithredu 82 argymhelliad yn yr adroddiad. Byddai eu gweithredu yn her sylweddol i unrhyw blaid wleidyddol, yn arbennig felly i fudiad sydd ddim yn fawr iawn, na chwaith \u00e2 llawer o adnoddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gofyn i Blaid Cymru weithredu&#8217;r rhain ar yr un pryd \u00e2 pharatoi ar gyfer etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ac etholiad Senedd Cymru yn 2026. Er mwyn sicrhau enillion yn yr etholiadau hynny, mae gofyn am fwy na diwygio trefnidaethol a blaengynllunio etholiadol trylwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaid i&#8217;r blaid hefyd ystyried ei strategaeth etholiadol \u2013 yn y blynyddoedd diwethaf prin fu&#8217;r cynydd o ran enillion etholiadol. Cadarnhau hyn wnaeth perfformiad y blaid yn <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/etholiad\/2019\/canlyniadau\">etholiad cyffredinol 2019<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/etholiad\/2021\/cymru\/canlyniadau\">etholiad Senedd Cymru 2021<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Does dim arwydd clir o wella ar eu perfformiad etholiadol yn fuan chwaith. Yr awgrym yn \u00f4l yr <a href=\"https:\/\/redfieldandwiltonstrategies.com\/welsh-westminster-senedd-independence-referendum-voting-intention-17-18-june-2023\/\">arolygon barn<\/a> ydy taw cyfyngedig fydd unrhyw ennill tir yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Gall hi hefyd fod yn anodd cynyddu eu cyfran o seddi yn yr etholiad i&#8217;r Senedd ddwy flynedd wedyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Annibyniaeth i Gymru<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn etholiad Senedd 2021, rhoddodd Plaid Cymru sylw blaenllaw iawn i&#8217;w galwad am annibyniaeth yn ystod yr ymgyrch, a chyplysu hyn gydag ymrwymiad i gynnal refferendwm o fewn pum mlynedd petai&#8217;n dod yn blaid lywodraethol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy wneud hynny, roedd yn mabwysiadu yr un math o strategaeth \u00e2 llawer o bleidiau a mudiadau o blaid annibyniaeth ar draws Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dadansoddodd <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/annibyniaeth\/\">ein hymchwil ni<\/a> y galwadau cyfansoddiadol gan y math hwn o fudiad mewn maniffestos, papurau polisi a datganiadau i&#8217;r wasg. Y casgliad oedd bod galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu, gyda mwy o bwyslais ar gyflwyno achos cadarnhaol dros greu gwladwriaeth newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond camfarnodd strategaeth y blaid flaenoriaethau pleidleiswyr Cymru ar y pryd, sef adferiad yn dilyn y pandemig yn hytrach na newid cyfansoddiadol sylweddol. Mae&#8217;r heriau yn ymwneud \u00e2 COVID yn debyg o fod yn llai canolog yn yr etholiad nesaf. Eto&#8217;i gyd, lleiafrif o bleidleiswyr sy&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/new-poll-shows-40-people-27290676\">cefnogi<\/a> annibyniaeth gyda diwygio cyfansoddiadol yn isel ar y rhestr o faterion sy&#8217;n bwysig i bobl.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Esiampl yr Alban<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dangosodd <a href=\"https:\/\/commonslibrary.parliament.uk\/supreme-court-judgment-on-scottish-independence-referendum\/\">methiant ymdrechion<\/a> Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) i sicrhau&#8217;r hawl gyfreithiol i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth nad oes llwybr hawdd i&#8217;r rhai sydd am adael y DG. Gyda&#8217;r SNP <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/politics\/2023\/jun\/25\/humza-yousaf-leaves-the-snp-faithful-confused-about-his-strategy-for-independence\">yn ei chael hi&#8217;n anodd<\/a> amlinellu strategaeth gredadwy ynghylch sut i wireddu annibyniaeth, dim ond ychydig bach o bleidleisiau newydd all y blaid eu sicrhau drwy osod annibynniaeth fel canolbwynt eu hymgyrch etholiadol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r arolygon wedi dangos fod llawer o&#8217;r rhai sy&#8217;n <a href=\"https:\/\/redfieldandwiltonstrategies.com\/welsh-westminster-senedd-independence-referendum-voting-intention-17-18-june-2023\/\">cefnogi<\/a> annibyniaeth i Gymru hefyd yn pleidleisio dros y Blaid Lafur. Ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu eu bod nhw&#8217;n barod i ildio eu teyrngarwch gan gefnogi Plaid Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r gwrthwyneb, mae <a href=\"https:\/\/redfieldandwiltonstrategies.com\/welsh-westminster-senedd-independence-referendum-voting-intention-17-18-june-2023\/\">arolygon barn<\/a> yn awgrymu bod Llafur Cymru yn debyg o gynyddu eu cyfran o&#8217;r bleidlais yn etholiad cyffredinol 2024 ac am gadw eu safle fel y brif blaid yn y Senedd. A hynny er gwaetha&#8217;r trafferthion sy&#8217;n wynebu Llywodraeth Cymru yn y meysydd sydd o dan ei adain fel y <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/welsh-nhs-knees-who-put-26918450\">gwasanaeth iechyd<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall llawer iawn newid rhwng nawr, blwyddyn nesaf a 2026. Fel pleidiau eraill sydd o blaid annibyniaeth, gan gynnwys yr SNP, mae Plaid Cymru yn hen gyfarwydd \u00e2 gorfod taro cydbwysedd rhwng y graddau mae&#8217;n pwysleisio ei hamcan cyfansoddiadol hir dymor ochr yn ochr \u00e2&#8217;r sylw a roddir i heriau brys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallai pleidleiswyr golli ffydd yn Llafur Cymru a&#8217;i record yn llywodraethu. Wrth gwrs, y tebygrwydd hefyd yw y bydd Llafur Cymru yn ymladd yn yr etholiad nesaf i&#8217;r Senedd gydag arweinydd newydd wrth y llyw. Mae Mark Drakeford eisoes wedi <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/mark-drakeford-interview-first-minister-25808177\">cadarnhau ei fwriad<\/a> i roi&#8217;r gorau i&#8217;r swydd. Bydd natur yr ornest yn wahanol hefyd wrth i&#8217;r diwygiadau i&#8217;r Senedd gael eu rhoi ar waith gan gynyddu&#8217;r nifer o aelodau o 60 i 96 a chyflwyno system etholiadol newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd newid sut mae&#8217;r Senedd yn cael ei hethol yn un o ymrwymiadau&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/y-cytundeb-cydweithio-2021\">cytundeb cydweithio<\/a> rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn 2021. Roedd yn un o nifer o feysydd lle cytunodd y pleidiau i <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/59371190\">gydweithio<\/a> heb i Blaid Cymru ddod yn rhan o&#8217;r llywodraeth yn ffurfiol dan drefniant clymblaid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobaith Plaid Cymru yw y bydd newidiadau polisi eraill yn sgil y cytundeb yn dangos i bleidleiswyr y gallan nhw ymddiried yn y blaid i lywodraethu dros Gymru ac i wireddu newid radical. Rhai o&#8217;r polis\u00efau hyn yw ymestyn prydau am ddim i blant ysgolion cynradd a mesurau newydd i daclo effeithiau ail dai.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ystyried y newidiadau fydd i&#8217;r cyd-destun gwleidyddol erbyn 2026, gallai&#8217;r blaid fod mewn sefyllfa fanteisiol i hawlio&#8217;r safle fel y blaid i Gymru. Mae heriau trefniadaethol a strategol sylweddol yn ei hwynebu, ac mae gofyn gweithredu&#8217;n gyflym i ymateb iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ran natur gwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd, hyd yn oed pe byddai&#8217;r blaid yn datrys yr heriau hynny, mae&#8217;n ansicr a fyddai&#8217;n gallu dwyn persw\u00e2d ar bleidleiswyr Cymru i roi diwedd ar hegemoni etholiadol Llafur Cymru, gan gynnwys ei theyrnasiad ar y lefel ddatganoledig ers 1999. Wrth i Rhun ap Iorwerth arwain Plaid Cymru i gyfeiriad y sialens etholiadol honno, mae&#8217;n wynebu her sy&#8217;n unigryw ymysg pleidiau o blaid annibyniaeth yn Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/profiles\/anwen-elias-151519\">Anwen Elias<\/a>, Reader in Politics, <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/institutions\/aberystwyth-university-999\">Aberystwyth University<\/a><\/em> and <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/profiles\/elin-royles-1453730\">Elin Royles<\/a>, Senior lecturer in politics, <em><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/institutions\/aberystwyth-university-999\">Aberystwyth University<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">This article is republished from <a href=\"https:\/\/theconversation.com\">The Conversation<\/a> under a Creative Commons license. Read the <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/yr-heriaun-wynebu-rhun-ap-iorwerth-cyn-yr-etholiadau-nesaf-209462\">original article<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Anwen Elias, Aberystwyth University and Elin Royles, Aberystwyth University Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae&#8217;n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn adroddiad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-9965","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9965","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9965"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9965\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9965"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9965"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9965"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}