{"id":9795,"date":"2023-04-17T17:28:00","date_gmt":"2023-04-17T16:28:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=9795"},"modified":"2024-08-19T15:38:55","modified_gmt":"2024-08-19T14:38:55","slug":"comisiynydd-yn-trafod-rol-gwirfoddolwyr-mewn-taclo-rhaniadau-cymunedol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/comisiynydd-yn-trafod-rol-gwirfoddolwyr-mewn-taclo-rhaniadau-cymunedol\/","title":{"rendered":"Comisiynydd yn trafod r\u00f4l gwirfoddolwyr mewn taclo rhaniadau cymunedol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i\u2019r afael \u00e2 pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn cynnal symposiwm ar y cyd \u00e2 phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau\u2019r Sector Gwirfoddol ddydd Mercher 24 Mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Comisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol Cymru, Derek Walker, fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad, sydd hefyd yn cael cefnogaeth gan Ganolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Alison Goldsworthy, cyd-awdur&nbsp;<em>Poles Apart: Why People Turn Against Each Other, and How to Bring Them Together<\/em>&nbsp;(Random House Business, 2021), yn cynnig rhagolwg o\u2019r gweithdy mae\u2019n ei threfnu gyda WISERD ar fynd i\u2019r afael \u00e2 phegynnu yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y siaradwyr yn trafod amrywiaeth eang o bynciau o gynhwysiant ac allg\u00e1u o fewn y sector cymunedol a gwirfoddol, pegynnu a gwrthdaro gwleidyddol yn y gymdeithas sifil leol, i&#8217;r r\u00f4l y mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn ei chwarae wrth atgyfnerthu neu wrthsefyll polareiddio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae gan grwpiau cymunedol ran allweddol i\u2019w chwarae wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 gwrthdaro a pholareiddio o fewn ein cymunedau lleol ac mae\u2019r digwyddiad hwn wedi\u2019i gynllunio i drin a thrafod yr heriau hyn. Rydym yn gwahodd academyddion, ymarferwyr yn y sector gwirfoddol ac unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb yn y drafodaeth pegynnu yma i ymuno \u00e2 ni. Rydyn ni\u2019n croesawu deialog ac arbenigedd a byddwn yn defnyddio dulliau cynnwys cynhwysol a chyfranogol trwy gydol y dydd, gan roi theor\u00efau ar waith wrth graffu ar sut i fynd i\u2019r afael \u00e2 rhaniadau o fewn ein cymuned.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol Derek Walker:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cEin cymunedau a&#8217;n gwirfoddolwyr diflino sy&#8217;n gwneud Cymru heddiw yn genedl fechan ond nerthol. Er ein bod yn byw mewn Byd lle mae pegynnu ar gynnydd, yn economaidd ac yn gymdeithasol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru) yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau cydlynus i lesiant Cymru, ac yn rhoi&#8217;r offer i ni wrando, dysgu, ac yn bwysicaf oll, gweithredu i sicrhau bod cymunedau cyfartal, iach, ffyniannus ar draws Cymru&#8217;n cael eu cefnogi a&#8217;u dathlu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am ragor o wybodaeth neu i archebu eich lle yn y digwyddiad, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/events\/\">https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/events\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r symposiwm yn rhan o brosiect ymchwil \u201cPoblyddiaeth, Gwrthdaro a Phegynnu\u201d yng&nbsp; Nghanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD, a ariennir gan gyngor ymchwil yr ESRC.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/news\/archive\/2023\/04\/title-263165-cy.html\">wefan Prifysgol Aberystwyth.<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltiadau<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Colin Nosworthy,<br>Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth<br><a href=\"mailto:ctn1@aber.ac.uk\">ctn1@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dolenni<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\nhttps:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/events\n<\/div><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i\u2019r afael \u00e2 pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf. Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9792,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[19],"tags":[],"class_list":["post-9795","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9795","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9795"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9795\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11249,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9795\/revisions\/11249"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9792"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9795"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9795"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9795"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}