{"id":8957,"date":"2021-10-18T14:21:00","date_gmt":"2021-10-18T13:21:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=8957"},"modified":"2024-09-10T14:24:25","modified_gmt":"2024-09-10T13:24:25","slug":"hen-lawysgrifau-yn-ysbrydoli-cerddi-cyfoes-am-newid-hinsawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/hen-lawysgrifau-yn-ysbrydoli-cerddi-cyfoes-am-newid-hinsawdd\/","title":{"rendered":"Hen lawysgrifau yn ysbrydoli cerddi cyfoes am newid hinsawdd"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">From left to right: Aberystwyth University academics Eurig Salisbury, Professor Matthew Jarvis and Professor Mererid Hopwood outside the old gasworks in the town.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfansoddi cerddi newydd mewn ymateb i hen lawysgrifau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy\u2019n ymdrin \u00e2\u2019r tywydd a newid hinsawdd.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y cerddi a\u2019r llawsygrifau\u2019n cael eu rhannu arlein a\u2019u harddangos mewn ffenest siop wag yng nghanol tref Aberystwyth fel rhan o \u0174yl Ymchwil y Brifysgol sy\u2019n dechrau heddiw (18 Hydref 2021).<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr Athro Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a\u2019r Aelod o Fwrdd Gweithredol Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chymrawd Cyfnewidfa Greadigol Prifysgol Aberystwyth Athro Matthew Jarvis o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol sydd wedi cyfansoddi\u2019r cerddi ar gyfer prosiect \u2018Stryd y Beirdd\u2019.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymateb mae englyn Mererid Hopwood i gerdd o\u2019r Oesoedd Canol gan Dafydd ap Gwilym am yr iwrch, math o garw a oedd wedi diflannu o diroedd Cymru. Gorlif Cantre\u2019r Gwaelod o Lyfr Du Caerfyrddin sy\u2019n cael sylw Eurig Salisbury yn ei englyn yntau. Darn o Almanac o fis Hydref 1721 yn darogan y tywydd union dri chan mlynedd yn \u00f4l sy\u2019n ysbrydoli cerdd Matthew Jarvis. Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood: \u201cFel aelodau o Gyfnewidfa Greadigol y Brifysgol rydym wrth ein bodd o gael cydweithio gyda\u2019r Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Sir Ceredigion i geisio dod \u00e2 gweithiau o\u2019r gorffennol at sylw\u2019r cyhoedd. Maen nhw\u2019n berthnasol heddiw er eu bod yn ganrifoedd oed.\u201d    <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd yr Athro Matthew Jarvis, Cymrawd Cyfnewidfa Greadigol y Brifysgol: <\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gall gwaith creadigol helpu pobl i weld y gorffennol mewn ffyrdd newydd, gan daflu goleuni newydd cyffrous ar ddeunydd sy\u2019n dyddio n\u00f4l ganrifoedd. Mae hefyd yn ffordd werthfawr i ymateb i heriau ein hoes ni \u2013 fel newid hinsawdd. Gall ganiat\u00e1u inni ddychmygu\u2019r dyfodol yr ydym o bosib am ei gyrraedd, a chysylltu\u2019n emosiynol gyda\u2019r dyfodol hwnnw.  <\/p><\/blockquote>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym fel Llyfrgell yn falch iawn o gael bod yn rhan o\u2019r fenter hon. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a\u2019i chasgliadau yn berchen i bawb yng Nghymru ac yn adnodd gwerthfawr sy\u2019n ein galluogi i ymateb yn bositif i heriau cyfoes fel newid hinsawdd. Mae\u2019r arddangosfa hon yn enghraifft wych o allu\u2019r gorffennol i ysbrydoli ac i\u2019n cynorthwyo i siapio dyfodol gwell i bobl Cymru a\u2019r byd.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet \u00e2 chyfrifoldeb dros Economi ac Adfydwio:<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym yn croesawu\u2019r cyfle i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar gynlluniau i gyflwyno \u2018Stryd y Beirdd\u2019 ar draws y dre, ac i hwyluso\u2019r arddangosfa yma o farddoniaeth \u00e2\u2019i neges bwysig sy\u2019n berthnasol inni i gyd \u2013 sef bod newidiadau wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd arddangosfa \u2018Stryd y Beirdd\u2019 i\u2019w gweld rhwng 18-31 Hydref 2021 yn ffenestri hen ystafelloedd arddangos y bwrdd nwy yng Nghoedlan y Parc, sy\u2019n eiddo i Gyngor Ceredigion, yn ogystal ag ar lwyfannau digidol y Brifysgol. Yn ogystal, bydd rhaglen arbennig \u2018Talwrn y Tywydd\u2019 yn cael ei recordio yn ystod yr \u0174yl a\u2019i darlledu ar BBC Radio Cymru nos Fercher 27 Hydref, gyda th\u00eem o staff presennol y Brifysgol yn cystadlu yn erbyn t\u00eem o gyn fyfyrwyr. Mae G\u0175yl Ymchwil y Brifysgol yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim rhwng 18-22 Hydref, gan ganolbwyntio ar faterion newid hinsawdd yn yr wythnosau cyn Cynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig.   <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\" \/>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y Cerddi<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>\u2018Almanactually\u2019<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">John Jones \/ teller of tall gales \/<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">does your predictive text \/ guide all<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">the weathers of the heart?<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Matthew Jarvis<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yr Iwrch<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dos di\u2019r llatai distawaf \u2013 yn gennad<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Dros y g\u00e2n nas medraf,<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Ac i glyw fy naear glaf<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Rho alaw dy gri olaf.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mererid Hopwood<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cantre\u2019r Gwaelod<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r ddalen \u00e2 Seithenyn arni hi<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Mor hen \u00e2\u2019r traeth melyn,<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Ond g\u0175r byw ydyw wedyn,<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> A gall fyw yn unrhyw un.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Eurig Salisbury<\/strong><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity\" \/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltiadau<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Colin Nosworthy, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"mailto:ctn1@aber.ac.uk\">ctn1@aber.ac.uk<\/a> \/ 07496 914301<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>From left to right: Aberystwyth University academics Eurig Salisbury, Professor Matthew Jarvis and Professor Mererid Hopwood outside the old gasworks in the town. Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11112,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[38],"tags":[],"class_list":["post-8957","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8957"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11383,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957\/revisions\/11383"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11112"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}