{"id":6866,"date":"2018-02-27T13:45:32","date_gmt":"2018-02-27T13:45:32","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6866\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:43","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:43","slug":"creu-senedd-i-gymru-cyfle-i-ddweud-eich-dweud-fel-rhan-on-hymgynghoriad-diwygio-etholiadol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/creu-senedd-i-gymru-cyfle-i-ddweud-eich-dweud-fel-rhan-on-hymgynghoriad-diwygio-etholiadol\/","title":{"rendered":"Creu Senedd i Gymru &#8211; Cyfle i ddweud eich dweud fel rhan o&#8217;n hymgynghoriad Diwygio Etholiadol"},"content":{"rendered":"<p><strong>Fel rhan o ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol, caiff tri digwyddiad eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o\u2019r ymgynghoriad a rhoi\u2019r cyd-destun i waith y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol.<\/strong><\/p>\n<div class=\"ExternalClassC4AF09D5AA4A46A8ACDCDD0B7E114EC4\">\n<p><span>Trefnwyd y digwyddiadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth \u00e2 Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, ac Academi Morgan.<\/span><\/p>\n<p><span>Bydd cyflwyniad gan banel ac yna sesiwn holi ac ateb, lle ceir cyfle i holi Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.<\/span><\/p>\n<p><span>Lluniwyd yr ymgynghoriad yn sg\u00eel y pwerau newydd a roddwyd i&#8217;r Cynulliad yn Neddf Cymru 2017.<\/span><\/p>\n<p><span>Mae&#8217;r Ddeddf yn rhoi&#8217;r p\u0175er i&#8217;r Cynulliad wneud penderfyniadau mewn perthynas \u00e2 maint y sefydliad a sut mae Aelodau&#8217;n cael eu hethol.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span>Yn gynharach y mis hwn, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef &#8220;Senedd sy&#8217;n Gweithio i Gymru&#8221;.<\/span><\/p>\n<p><span>Ar \u00f4l dadansoddi&#8217;r dystiolaeth yn ofalus, roedd y Panel yn argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol ac y dylid eu hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol sy&#8217;n rhoi lle canolog i amrywiaeth. Roedd hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau&#8217;r Cynulliad Cenedlaethol, i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg mlwydd oed.<\/p>\n<p>Bydd yr ymgynghoriad yn diweddu ar 6 Ebrill.<\/span><\/p>\n<p><span>Yn ogystal ag argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad mae&#8217;r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys newidiadau posibl eraill o ran pwy all bleidleisio yn etholiadau&#8217;r Cynulliad, a phwy all fod yn Aelod o&#8217;r Cynulliad, ynghyd \u00e2 newidiadau i&#8217;r gyfraith yn ymwneud \u00e2 gweinyddiaeth etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.<\/span><\/p>\n<p><span>Mae&#8217;r Comisiwn eisoes wedi ymgynghori ynghylch newid enw&#8217;r Cynulliad, ac o ganlyniad i&#8217;r ymgynghoriad hwnnw bydd yr enw&#8217;n cael ei newid i Senedd Cymru.<\/span><\/p>\n<p><span>Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd:<\/span><\/p>\n<p><span>&#8220;Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru, gan roi cyfle inni wneud newidiadau pellgyrhaeddol i&#8217;n deddfwrfa. Mae gennym gyfle nawr i greu&#8217;r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru&#8217;n ei haeddu i hyrwyddo eu buddiannau.<\/span><\/p>\n<p><span>Mae&#8217;r ymgynghoriad hwn yn dechrau&#8217;r sgwrs gyda phobl a chymunedau Cymru am y math o sefydliad y maen nhw am i&#8217;w Senedd Cymru fod. Edrychaf ymlaen at glywed eu barn.&#8221;<\/span><\/p>\n<p><span><\/span>\u00a0<span>Manylion y digwyddiadau<\/span><\/p>\n<hr \/>\n<p><span>Abertawe<\/span><\/p>\n<p><strong>Dyddiad:<\/strong><span>\u00a0<\/span>Dydd Llun 12\/03\/18<span>\u00a0<\/span><br \/>\n<strong>Amser:<\/strong>\u00a018:00 &#8211; 19:30<br \/>\n<span lang=\"EN\"><strong>Lleoliad:<\/strong>\u00a0Adeilad Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe, Campws Bae Abertawe. SA1 8EN\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"EN\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/creu-senedd-i-gymru-abertawe-creating-a-parliament-for-wales-swansea-registration-43305337430\">Manylion y digwyddiadau&gt;<\/a><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p><span><span aria-hidden=\"true\">Aberystwyth<\/span><\/span><\/p>\n<p><strong>Dyddiad:<\/strong>\u00a0Dydd Iau 15\/03\/18<br \/>\n<strong>Amser:<\/strong>\u00a018:30 &#8211; 20:00<br \/>\n<span lang=\"EN\"><strong>Lleoliad:<\/strong>\u00a0Y Brif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3FE<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"EN\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/creu-senedd-i-gymru-creating-a-parliament-for-wales-aberystwyth-registration-43306805822\">Manylion y digwyddiadau&gt;<\/a><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div><\/div>\n<hr \/>\n<p><span><span aria-hidden=\"true\">Bangor<\/span><\/span><\/p>\n<p><strong>Dyddiad:<\/strong>\u00a0Dydd Iau 22\/03\/18<br \/>\n<strong>Amser:<\/strong>\u00a018:30 &#8211; 20:00<br \/>\n<span lang=\"EN\"><strong>Lleoliad:<\/strong>\u00a0Darlithfa Eric Sunderland, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"EN\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/creu-senedd-i-gymru-creating-a-parliament-for-wales-bangor-registration-43307258175\">Manylion y digwyddiadau&gt;<\/a><\/span><span lang=\"EN\"><\/span><span>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span>I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau rhanbarthol, gan gynnwys sut i fod yn bresennol, ewch i&#8217;r ficrowefan ymgynghori ar ddiwygio etholiadol<\/span><a href=\"https:\/\/www.seneddydyfodol.cymru\/hafan\/\"><span lang=\"CY\">www.seneddydyfodol.cymru\/hafan\/<\/span><\/a><span>.<\/span><\/p>\n<p><span>Mae nifer o ffyrdd y gall pobl roi gwybod i Gomisiwn y Cynulliad beth maent yn ei feddwl am y diwygiadau posibl:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span>Mynd i\u00a0<\/span><a href=\"http:\/\/www.senedd.cynulliad.cymru\/mgConsultationDisplay.aspx?ID=292\"><span lang=\"CY\">wefan yr ymgynghoriad<\/span><\/a><span>, lle ceir y ddogfen ymgynghori lawn a fersiwn hawdd ei darllen o&#8217;r ddogfen ymgynghori. Ar \u00f4l llenwi&#8217;r ffurflen ymateb i&#8217;r ymgynghoriad, gellir ei hanfon at\u00a0<\/span><a href=\"mailto:ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru\"><span lang=\"CY\">ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru<\/span><\/a><span>\u00a0neu gallwch ei hanfon atom yn y post at Rhadbost [Freepost], Cynulliad Cenedlaethol Cymru.<\/span><\/li>\n<li><span>Mynd i\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/www.seneddydyfodol.cymru\/hafan\/\"><span lang=\"CY\">ficrowefan yr ymgynghoriad<\/span><\/a><span>\u00a0a llenwi arolwg ar-lein. Gallwch ddewis ateb y cwestiynau am bob cynnig, ynteu dim ond y rhai sydd o ddiddordeb i chi.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span><span lang=\"CY\"><\/span>\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol, caiff tri digwyddiad eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o\u2019r ymgynghoriad a rhoi\u2019r cyd-destun i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6862,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6866","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6866","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6866"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6866\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9001,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6866\/revisions\/9001"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6866"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6866"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6866"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}