{"id":6836,"date":"2017-12-12T13:45:15","date_gmt":"2017-12-12T13:45:15","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6836\/"},"modified":"2024-09-30T11:15:07","modified_gmt":"2024-09-30T10:15:07","slug":"gwobr-cyflawniad-arbennig-i-academydd-o-aberystwyth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gwobr-cyflawniad-arbennig-i-academydd-o-aberystwyth\/","title":{"rendered":"Gwobr Cyflawniad Arbennig i academydd o Aberystwyth"},"content":{"rendered":"<p>Mae academydd blaenllaw o Gymru sydd yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth iechyd byd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyfraniad oes i ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Arbennig i\u2019r Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV\/AIDS yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 gafodd eu cynnal yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr.<\/p>\n<p>Wrth longyfarch yr Athro McInnes ar ei lwyddiant, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: \u201cAr ran pawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau mwyaf gwresog i\u2019r Athro McInnes ar dderbyn y wobr hon. Mae wedi cynorthwyo i ail-ddiffinio a mireinio ein dealltwriaeth o iechyd fel ffenomenon wleidyddol yn oes globaleiddio, ac nid yw\u2019n or-ddweud ei fod wedi bod yn gyfrifol am sefydlu\u2019r maes hwn yn y DU ac yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mewn datganiad o gefnogaeth, disgrifiodd yr Athro Kelley Lee o Brifysgol Simon Fraser, Vancouver, Canada, yr Athro McInnes fel \u201cysgolhaig rhagorol o enw da rhyngwladol\u201d.<\/p>\n<p>Ychwanegodd yr Athro Lee: \u201cMae&#8217;r Athro McInnes yn ysgolhaig uchel iawn ei barch sydd wedi cyfrannu dadansoddiadau arloesol a gwreiddiol sy&#8217;n pontio meysydd Cysylltiadau Rhyngwladol ac Iechyd Cyhoeddus. Mae wedi cyflawni hyn trwy chwarae r\u00f4l arweiniol wrth ddyfnhau\u2019r dadansoddiad o faterion iechyd byd-eang gan ddefnyddio lensys polisi tramor, diogelwch a llywodraethiant\/diplomyddiaeth. Mae ei gyfraniadau damcaniaethol ac empirig yn ychwanegol at ei gyfraniadau cyson at drafodaethau polisi lefel uchel yn y DU ac yn rhyngwladol.\u201d<\/p>\n<p>Noddwyd gwobrau Cymdeithas Ymchwil Cymdeithasol eleni gan yr Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, ac maent yn cydnabod a dathlu ymchwil ragorol gan ymchwilwyr gwyddoniaeth gymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Eleni gwelwyd academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol ar restr fer pob un o bedwar categori\u2019r Gwobrau.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r Athro McInnes, cafodd y canlynol eu cynnwys ar y rhestr fer.<\/p>\n<p>Dr Catrin Wyn Edwards (Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn). Mae Dr Edwards wedi bod yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol ymfudwyr i is-wladwriaethau, yn benodol yng Nghatalwnia a Chymru, a Quebec a New Brunswick yng Nghanada.<\/p>\n<p>Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards (Gwobr Effaith Ymchwil). Cafodd Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards, sy\u2019n gweithio i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith hysbysu a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi fu\u2019n bwydo mewn i baratoi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru,<span>\u00a0<\/span><em>Cymraeg 2050, Strategaeth y Gymraeg<\/em>, gafodd ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2017.<\/p>\n<p>Dr Berit Bliesemann de Guevara (Gwobr Arloesedd Ymchwil). Enwebwyd Dr Bliesmann de Guevara am ei gwaith ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar y prosiect \u201cDefnyddio gweithdy arlunio i archwilio profiadau anffrwythlondeb menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru\u201d.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr adolygiad diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o\u2019r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny, gydag ymchwil sy\u2019n arwain y byd (4*) yn cael ei nodi ym mhob un o 17 o\u2019r Unedau Asesu a gyflwynwyd.<\/p>\n<p>Roedd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y brig yng Nghymru, gyda dros 75% o&#8217;i ymchwil o safon gydnabyddedig ryngwladol neu yn neu&#8217;n rhagorol yn rhyngwladol (FfRhY2014).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae academydd blaenllaw o Gymru sydd yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth iechyd byd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyfraniad oes i ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Arbennig i\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11404,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[38,25],"tags":[],"class_list":["post-6836","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-cy","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6836","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6836"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6836\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8994,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6836\/revisions\/8994"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11404"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6836"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6836"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6836"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}