{"id":6831,"date":"2017-12-04T10:52:47","date_gmt":"2017-12-04T10:52:47","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6831\/"},"modified":"2024-09-30T11:13:06","modified_gmt":"2024-09-30T10:13:06","slug":"academyddion-o-aberystwyth-ar-restr-fer-gwobrau-ymchwil-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/academyddion-o-aberystwyth-ar-restr-fer-gwobrau-ymchwil-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Academyddion o Aberystwyth ar restr fer gwobrau ymchwil cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p>Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr.<\/p>\n<p>Cynhelir y gwobrau gan y Gymdeithas Ymchwil Cymdeithasol a\u2019u noddi gan yr Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, ac maent yn cydnabod a dathlu ymchwil ragorol gan ymchwilwyr gwyddoniaeth gymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae pob rhestr fer yn cynnwys academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth, gydag enwebiadau ym mhob un o&#8217;r pedwar categori; Gwobr Cyflawniad Arbennig, Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn, Gwobr Effaith Ymchwil a Gwobr Arloesedd Ymchwil.<\/p>\n<p><strong>Gwobr Cyflawniad Arbennig<\/strong>: Yr Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV\/AIDS yn Affrica.<\/p>\n<p>Penodwyd yr Athro McInnes, sydd yn awdurdod blaenllaw ar iechyd byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Is-Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer UNESCO ym mis Ionawr 2017.<\/p>\n<p><strong>Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn<\/strong>: Dr Catrin Wyn Edwards.<\/p>\n<p>Mae Dr Edwards wedi bod yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol ymfudwyr i is-wladwriaethau, yn benodol yng Nghatalwnia a Chymru, a Quebec a New Brunswick yng Nghanada.<\/p>\n<p><strong>Gwobr Effaith Ymchwil<\/strong>: Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards.<\/p>\n<p>Cafodd Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards, sy\u2019n gweithio i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith hysbysu a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi fu\u2019n bwydo mewn i baratoi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru,<span>\u00a0<\/span><em>Cymraeg 2050, Strategaeth y Gymraeg<\/em>, gafodd ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2017.<\/p>\n<p><strong>Gwobr Arloesedd Ymchwil<\/strong>: Dr Berit Bliesemann de Guevara.<\/p>\n<p>Enwebwyd Dr Bliesmann de Guevara am ei waith ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar y prosiect &#8220;Defnyddio gweithdy arlunio i archwilio profiadau anffrwythlondeb menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru&#8221;.<\/p>\n<p>Meddai&#8217;r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil yn Aberystwyth: &#8220;Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o ymchwil o safon byd yn y gwyddorau cymdeithasol, sy&#8217;n cael ei gydnabod yn eang am ei ragoriaeth, gwreiddioldeb, arwyddoc\u00e2d a&#8217;i chywirdeb. Rwyf wrth fy modd yn gweld gwaith cydweithwyr yn cael ei gydnabod fel hyn.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr adolygiad diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o\u2019r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny, gydag ymchwil sy\u2019n arwain y byd (4*) yn cael ei nodi ym mhob un o 17 o\u2019r Unedau Asesu a gyflwynwyd.<\/p>\n<p>Roedd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y brig yng Nghymru, gyda dros 75% o&#8217;i ymchwil o safon gydnabyddedig ryngwladol neu yn neu&#8217;n rhagorol yn rhyngwladol (FfRhY2014).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr. Cynhelir y gwobrau gan y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11404,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[38,25],"tags":[],"class_list":["post-6831","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-cy","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6831","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6831"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6831\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8992,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6831\/revisions\/8992"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11404"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6831"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6831"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6831"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}