{"id":6745,"date":"2017-10-10T13:32:37","date_gmt":"2017-10-10T12:32:37","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6745\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:41","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:41","slug":"cynnig-yn-y-senedd-ar-allyriadau-carbon-wedi-ei-seilio-ar-waith-ym-mhrifysgol-aberystwyth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/cynnig-yn-y-senedd-ar-allyriadau-carbon-wedi-ei-seilio-ar-waith-ym-mhrifysgol-aberystwyth\/","title":{"rendered":"Cynnig yn y Senedd ar allyriadau carbon wedi ei seilio ar waith ym Mhrifysgol Aberystwyth"},"content":{"rendered":"<p>Bydd gwerthusiad o gynllun a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i leihau allyriadau carbon yn cael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher 4 Hydref 2017.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynnig sydd wedi ei noddi gan gr\u0175p trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd i gyflwyno Cyfrifon Carbon Personol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynnig yn tynnu ar waith Martin Burgess, ymchwilydd yng Nghanolfan Ymchwil i Ymddygiad yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>Mae Cyfrifon Carbon Personol yn seiliedig ar gysyniad a ddatblygwyd yng nghanol y 1990au ac yn gweithredu fel cyfrifon cyfredol banc cyffredin gyda cherdyn debyd.<\/p>\n<p>Mae gan bob person gyfrif lle mae credydau carbon rhad ac am ddim yn cael eu talu bob mis. Caiff y rhain eu gwario wrth brynu tanwydd ar gyfer cerbydau a&#8217;r cartref &#8211; petrol, disel, nwy, trydan neu olew tanwydd.<\/p>\n<p>Gall defnyddwyr trwm brynu mwy o gredydau os ydynt yn rhedeg allan, tra bod defnyddwyr isel yn medru gwerthu credydau sydd heb eu gwario, a\u2019u cyfnewid am arian.<\/p>\n<p>Nod y cynllun yw canolbwyntio ymwybyddiaeth pobl o&#8217;u defnydd o garbon, ac yn raddol eu perswadio i leihau eu defnydd o danwydd ffosil trwy newid eu hymddygiad yn wirfoddol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynnig i&#8217;r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am sefydlu gwerthusiad i ymarferoldeb cynnal cynllun peilot mewn ardal yng Nghymru, gan archwilio&#8217;n fanwl sut y byddai&#8217;r cynllun yn gweithio o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Mae Martin Burgess wedi cynnal astudiaeth fanwl o&#8217;r cynigion gwreiddiol a ddaeth i amlygrwydd yn 2006 pan oedd David Miliband yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd. Gollyngwyd y syniad yn 2008 ar sail cost a derbynioldeb cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull newydd yn defnyddio theori newid ymddygiad cymhwysol i leihau defnydd, ac yn tynnu ar ddealltwriaeth a gafwyd o&#8217;r ymgyrch lwyddiannus i leihau&#8217;r defnydd o fagiau siopa plastig o archfarchnadoedd.<\/p>\n<p>Meddai Martin Burgess: \u201cMae amrywiadau enfawr yn y defnydd o danwydd rhwng aelwydydd o faint tebyg ac incwm sy&#8217;n byw mewn cartrefi tebyg. Mae Cyfrifon Carbon Personol wedi eu cynllunio i alluogi pobl i feddwl eto am sut y maent yn defnyddio tanwydd a chreu llygredd carbon. Codi ymwybyddiaeth a gwneud gostyngiadau bach yw bwriad y cynllun yn y lle cyntaf, er y bydd manteision economaidd go iawn i bobl wrth iddynt leihau faint o danwydd maent yn ei ddefnyddio.\u201d<\/p>\n<p>&#8220;Yn y tymor hirach, byddai&#8217;n dylanwadu ar sut y mae pobl yn gwneud penderfyniadau mwy, megis dewis car neu fuddsoddi mewn inswleiddio gwell ar d\u0177, gan eu hannog i gymryd yr opsiwn a fyddai&#8217;n eu gweld yn defnyddio llai o gredydau carbon ac arbed arian.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hefyd yn ymwneud \u00e2 newid yr hyn a ystyrir yn ymddygiad cymdeithasol derbyniol a greddf pobl i gydymffurfio \u00e2&#8217;r safonau cymdeithasol gwahanol hyn. Er enghraifft, ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, roedd siopwyr a oedd yn mynd \u00e2 bagiau i archfarchnadoedd yn cael eu hystyried yn gybyddlyd neu&#8217;n od: bellach mae\u2019n cael ei weld fel arfer perffaith arferol. Y rhai sy&#8217;n prynu llawer of fagiau ar y til sy&#8217;n cael eu hystyried yn rhyfedd neu ddim yn hollol dderbyniol erbyn hyn. Mae&#8217;r rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio \u00e2&#8217;r arferol newydd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r t\u00e2l bach am fagiau plastig wedi newid y norm cymdeithasol yn gyfan gwbl trwy ail ddiffinio\u2019r defnydd ym meddyliau pobl. Mae Cyfrifon Carbon Personol yn ceisio ei harneisio\u2019r mecanwaith meddylion hwn.<\/p>\n<p>\u201cNid defnyddio Cyfrifon Carbon Personol i gosbi dinasyddion am ddefnydd llawer o garbon yw\u2019r bwriad, ond yn hytrach ail-fframio\u2019r defnydd o garbon mewn ffordd debyg i\u2019r modd y mae pobl yn cyllido ac yn cydymffurfio, gyda chymorth polis\u00efau eraill, er mwyn lleihau\u2019r defnydd o garbon.\u201d<\/p>\n<p>Meddai&#8217;r Athro Mark Whitehead o\u2019r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: &#8220;Rydym wrth ein bodd \u00e2&#8217;r ffordd y mae&#8217;r ymchwil hwn wedi datblygu, ac yn arbennig y ffordd y mae dealltwriaeth fodern o newid ymddygiad wedi cael ei ddefnyddio i adfywio cysyniad sydd eisoes yn bodoli.&#8221;<\/p>\n<p>Ariennir gwaith ymchwil Martin Burgess gan WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019 cynnig sy\u2019n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru yn cael ei noddi gan Simon Thomas AC, Adam Price AC, David Melding AC a Mike Hedges AC.<\/p>\n<p>Gellir gweld rhagor o fanylion am Gyfarfod Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 4 Hydref 2017<span>\u00a0<\/span><a href=\"http:\/\/www.senedd.cynulliad.cymru\/ieListDocuments.aspx?MId=4647&amp;EVT=105\">ar-lein yma<\/a>.<\/p>\n<div class=\"share-icon\">\n<h4><\/h4>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd gwerthusiad o gynllun a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i leihau allyriadau carbon yn cael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher 4 Hydref 2017. Mae\u2019r cynnig sydd wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6742,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6745","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6745","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6745"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6745\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8986,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6745\/revisions\/8986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6745"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6745"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6745"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}