{"id":6725,"date":"2017-09-12T12:05:42","date_gmt":"2017-09-12T11:05:42","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6725\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:40","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:40","slug":"cynhadledd-i-drafod-dyfodol-ieithoedd-yn-y-du-wedi-brexit","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/cynhadledd-i-drafod-dyfodol-ieithoedd-yn-y-du-wedi-brexit\/","title":{"rendered":"Cynhadledd i drafod dyfodol ieithoedd yn y DU wedi Brexit"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i\u2019r dadlau a\u2019r craffu\u00a0 ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolis\u00efau iaith.<\/p>\n<p>Cynhelir y gynhadledd, <em><u>Polis\u00efau Iaith yn y DU Wedi Ymadael \u00e2r Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli<\/u><\/em> ar ddydd Iau 21 Medi, ac yn gefnlen iddi mae gostyngiad yn niferoedd y bobl ifainc sy\u2019n dewis astudio Ieithoedd Modern mewn ysgolion a phrifysgolion.<\/p>\n<p>Yn 2016 yn unig, gwelwyd cwymp o 6.4%, 4.2% a 2.7% yn niferoedd ymgeiswyr Lefel A Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.<\/p>\n<p>Gyda hyn mewn golwg, bydd academyddion o bob cwr o\u2019r DU yn ymgynnull yn Aberystwyth i ofyn beth yw\u2019r dyfodol i Ieithoedd Modern yn y DU ar \u00f4l Brexit.<\/p>\n<p>Yn ogystal, byddant yn trafod effeithiau posib Brexit ar bolis\u00efau yn ymwneud ag ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn y DU.<\/p>\n<p>Bydd y rhain yn cynnwys strategaethau a pholis\u00efau a fabwysiadwyd gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i adfywio\u2019r Gymraeg, Gaeleg yr Alban a\u2019r Wyddeleg.<\/p>\n<p>Prif siaradwraig y gynhadledd fydd yr Athro Sue Wright o Brifysgol Portsmouth a fydd yn trafod \u2018Beth sy\u2019n gwneud i bolisi iaith weithio?\u2019.<\/p>\n<p>Trefnir a noddir y gynhadledd gan <u>Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth<\/u>, <u>Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)<\/u> a <a href=\"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/\">Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru\u00a0 WISERD Prifysgol Aberystwyth<\/a>.<\/p>\n<p>Un o brif drefnwyr y gynhadledd yw Dr Elin Royles, cyd-sefydlydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Royles: \u201cRhai o&#8217;r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu holi fydd beth yw arwyddoc\u00e2d Brexit i\u2019r strategaethau a&#8217;r polis\u00efau a fabwysiadwyd gan wledydd y DU i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, o ystyried ein bod yn gadael y cyd-destun a gr\u00ebwyd gan ymrwymiadau&#8217;r UE i barchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol a diogelu a gwella treftadaeth Ewrop?<\/p>\n<p>\u201cYn yr un modd, o ystyried bod addysg wedi&#8217;i ddatganoli, sut y gellid addysgu ieithoedd tramor modern yn wahanol ar draws y DU ar \u00f4l Brexit?<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r gynhadledd yn ymwneud yn gryf \u00e2&#8217;n hymgysylltiad rhyngddisgyblaethol gweithredol mewn trafodaethau polisi a\u2019r ddadl ar bolisi iaith, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru. Drwy gyd-drefnu a chynnal y digwyddiad hwn, croesawn y cyfle i roi ystyriaeth fanwl i archwilio goblygiadau Brexit am bolisi iaith o wahanol safbwyntiau yn y DU.&#8221;<\/p>\n<p>Nod Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru &#8211; WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithasol yng Nghymru yng nghyd-destun byd rhyng-gysylltiedig, cefnogi a chyflwyno ymchwil o&#8217;r radd flaenaf yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus, dadleuon a datblygu polisi yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cynhelir y gynhadledd yng Nghanolfan Medrus (Penbryn) ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth a bydd yr anerchiad agoriadol yn dechrau am 10:00 y bore, ddydd Iau 21 Medi 2017.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gynhadledd yn rhad ac am ddim i bawb fynychu (cinio wedi&#8217;i gynnwys) ac fe&#8217;i noddir yn hael gan Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p><strong>Dolenni:<\/strong> Polis\u00efau Iaith yn y DU Wedi Ymadael \u00e2\u2019r Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli<\/p>\n<p><u>https:\/\/sites.google.com\/view\/uklpab\/2017<\/u><\/p>\n<p>Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD@Aberystwyth<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/cy\/\">http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/cy\/<\/a><\/p>\n<p>Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru<br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.wiserd.ac.uk\/\">http:\/\/www.wiserd.ac.uk\/<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i\u2019r dadlau a\u2019r craffu\u00a0 ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolis\u00efau iaith. Cynhelir y gynhadledd, Polis\u00efau Iaith yn y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6723,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6725","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6725","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6725"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6725\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8982,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6725\/revisions\/8982"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6725"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6725"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6725"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}