{"id":6648,"date":"2017-07-24T09:03:38","date_gmt":"2017-07-24T08:03:38","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6648\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:40","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:40","slug":"gweithdy-adfywio-eisteddfod-genedlaethol-2017","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gweithdy-adfywio-eisteddfod-genedlaethol-2017\/","title":{"rendered":"Gweithdy Adfywio &#8211; Eisteddfod Genedlaethol 2017"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gweithdy \u2018gofod agored\u2019 i drafod dulliau o hybu\u2019r Gymraeg<\/strong><\/p>\n<div id=\"page_container\">\n<div id=\"wrap\" class=\"normal clearfix\">\n<div id=\"main\" class=\"mu-first\">\n<div class=\"content ue \">\n<p>11.30-1.30, Mercher, 9 Awst 2017, Uned Prifysgol Aberystwyth, Maes Eisteddfod Genedlaethol Ynys M\u00f4n<\/p>\n<h4>Beth?<\/h4>\n<p>Yn dilyn cyhoeddi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, <em>Cymraeg 2050<\/em>, bwriad y digwyddiad agored hwn, wedi ei drefnu ar sail arferion BarCamp, yw rhoi cyfle i unigolion sy\u2019n arwain prosiectau ymarferol neu brosiectau ymchwil sy&#8217;n ymwneud \u00e2 hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg gyflwyno eu gwaith er mwyn rhannu gwybodaeth a derbyn adborth.<\/p>\n<h4>Trefn?<\/h4>\n<p>Gan bod hwn yn ddigwyddiad agored, nid oes rhaglen wedi&#8217;i threfnu o flaen llaw! Mae croeso i unrhyw un fynychu a chynnig cyflwyniad ar bwnc o&#8217;u dewis, cyhyd \u00e2&#8217;i fod yn trafod prosiect ymarferol neu brosiect ymchwil sy&#8217;n ymwneud \u00e2 hyrwyddo&#8217;r Gymraeg. Bydd cyfres o slotiau 30 munud yr un (wedi\u2019u rhannu\u2019n fras i tua 15 munud o gyflwyno a 15 munud o drafod) ar gael rhwng 11.30 a 1.30 a bydd modd i unrhyw un sydd am wneud cyflwyniad hawlio slot i&#8217;w hunain. \u00a0Byddwn hefyd yn darparu cinio i fynychwyr yn ystod y gweithdy.<\/p>\n<h4>Sut i gymryd rhan?<\/h4>\n<p>Mae croeso i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb fynychu, ond mae angen bod yn barod i gyfrannu mewn rhyw fodd. Gellir cyfrannu naill ai trwy roi cyflwyniad yn ystod un o&#8217;r slotiau, neu trwy ddod yn barod i drafod ac i holi cwestiynau. Os am wneud cyflwyniad, rydym yn gyfraniadau byr a bachog \u00a0sy&#8217;n cyflwyno\u2019r prosiect, yn codi cwestiynau ac yn sbarduno trafodaeth. Er mwyn trefnu slot ar gyfer cyflwyniad, gellir naill ai cysylltu o flaen llaw trwy e-bostio <a href=\"mailto:hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk<\/a>, neu gellir nodi&#8217;r manylion perthnasol ar yr amserlen a fydd ar gael ar uned Prifysgol Aberystwyth o 9.30 ar fore Mercher 9 Awst.<\/p>\n<h4>Cofrestru<\/h4>\n<p>Mae&#8217;n bwysig bod pawb sy&#8217;n bwriadu mynychu&#8217;r digwyddiad \u2013 boed er mwyn cyflwyno neu drafod \u2013 yn cofrestru <em>o flaen llaw<\/em>. Bydd hyn yn caniatau i ni drefnu bod digon o seddi a byrddau ar gael i bawb ar y diwrnod, a hefyd sicrhau bod digon o fwyd ar gael i bawb dros amser cinio! Gellir cofrestru trwy e-bostio <a href=\"mailto:hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n<h4>Cwestiynau pellach?<\/h4>\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach yngl\u0177n \u00e2\u2019r digwyddiad hwn, cysylltwch a Huw Lewis (<a href=\"mailto:hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk<\/a>) neu Elin Royles (<a href=\"mailto:ear@aber.ac.uk\">ear@aber.ac.uk<\/a>).<\/p>\n<\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Dr-Elin-Royles-a-Dr-Huw-Lewis-web.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6540\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Dr-Elin-Royles-a-Dr-Huw-Lewis-web-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" \/><\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gweithdy \u2018gofod agored\u2019 i drafod dulliau o hybu\u2019r Gymraeg 11.30-1.30, Mercher, 9 Awst 2017, Uned Prifysgol Aberystwyth, Maes Eisteddfod Genedlaethol Ynys M\u00f4n Beth? Yn dilyn cyhoeddi strategaeth iaith newydd Llywodraeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6692,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6648","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6648","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6648"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6648\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8979,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6648\/revisions\/8979"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6648"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6648"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6648"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}