{"id":6563,"date":"2017-07-10T11:50:02","date_gmt":"2017-07-10T10:50:02","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6563\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:39","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:39","slug":"barn-pobl-ifanc-am-brexit","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/barn-pobl-ifanc-am-brexit\/","title":{"rendered":"Barn pobl ifanc am Brexit"},"content":{"rendered":"<p>Flwyddyn wedi\u2019r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ymateb pobl ifanc yng Nghymru mewn cynhadledd yn Llundain ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017.<\/p>\n<p>Mae Dr Elin Royles a Dyfan Powel o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD wedi bod yn siarad gyda myfyrwyr chweched dosbarth ar draws Cymru ac yn casglu eu barn ar sut y mae Brexit yn debygol o effeithio arnynt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r canlyniadau\u2019n seiliedig ar gyfweliadau sydd wedi eu casglu ar gyfer prosiect ymchwil ar y cyd \u00e2 Phrifysgol Caeredin, \u2018Addysg, Iaith a Hunaniaeth&#8217;<\/p>\n<p>Caiff y casgliadau eu cyflwyno yng nghynhadledd Young People and Brexit: One Year On sy\u2019n cael ei threfnu gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru \u2013 WISERD.<\/p>\n<p>Yn ogystal, bydd ffilm fer o ymatebion pobl ifanc a gasglwyd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei dangos.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Brexit: Barn Pobl Ifanc by Prifysgol Aberystwyth University\" width=\"1080\" height=\"400\" scrolling=\"no\" frameborder=\"no\" src=\"https:\/\/w.soundcloud.com\/player\/?visual=true&#038;url=https%3A%2F%2Fapi.soundcloud.com%2Ftracks%2F329255257&#038;show_artwork=true&#038;maxheight=1000&#038;maxwidth=1080\"><\/iframe><\/p>\n<p>Yn \u00f4l Dyfan Powel, Cydymaith Ymchwil ar y prosiect, mae llawer o bobl pobl ifanc yn anfodlon iawn na chawson nhw bleidleisio yn y refferendwm.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cMae\u2019r ffaith fod llawer o bobl ifanc yn grac na chawson nhw&#8217;r cyfle i ddylanwadu ar ganlyniad pleidlais Brexit wedi golygu bod llawer ohonynt yn fwy penderfynol o ymwneud \u00e2&#8217;r broses ddemocrataidd yn y dyfodol. Efallai ein bod eisoes yn gweld hyn yn cael ei wireddu gyda\u2019r cynnydd a welwyd yn nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol yn ddiweddar.\u201d<\/p>\n<p>\u201cEr bod nifer yn anghytuno \u00e2 Brexit, mae pobl ifanc Cymru yn bragmataidd, ac yn awyddus i ymateb yn bositif i&#8217;r penderfyniad a gweld proses lle bydd pawb yn elwa.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Dr Elin Royles, mae&#8217;r canlyniad wedi bwydo i ymdeimlad o raniad rhwng y cenedlaethau, a&#8217;r farn fod gwahaniaethau syniadau rhwng pobl ifanc a chenedlaethau h\u0177n.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cDyw pobl ifanc ddim yn ymrwymo i ddadleuon gwrth-fewnfudo, a\u2019u canfyddiad yw taw\u2019r syniadau hynny yrrodd y bleidlais i ymadael ymysg pleidleiswyr h\u0177n a oedd o blaid Brexit. Maen nhw hefyd yn ofni y bydd agweddau o\u2019r fath yn creu delwedd negyddol o\u2019r Deyrnas Unedig yn rhyngwladol.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae\u2019r ymchwil yn codi\u2019r cwestiwn a oes angen am fwy o addysg wleidyddol ar gyfer pobl ifanc i\u2019w galluogi i fod yn fwy hyderus wrth ymwneud gyda\u2019r broses wleidyddol, a hefyd a oes yna gyfle i fudiadau gwirfoddol i lenwi\u2019r bwlch pan fydd cynlluniau Ewropeaidd megis Erasmus yn dod i ben?\u201d<\/p>\n<p>Yn dilyn y sesiwn gyda Dr Elin Royles a Dyfan Powel, bydd yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a Catrin James o\u2019r Urdd yn trafod r\u00f4l y sector wirfoddol wrth lywio hunaniaethau pobl ifanc yn sgil Brexit.<\/p>\n<p>Cynhelir y gynhadledd Young People and Brexit: One Year On yn swyddfeydd Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yn Stryd All Saints, Llundain gan ddechrau am 10 y bore a gorffen am 5 y prynhawn ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Flwyddyn wedi\u2019r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ymateb pobl ifanc yng Nghymru mewn cynhadledd yn Llundain ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6541,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6563","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6563","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6563"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6563\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8971,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6563\/revisions\/8971"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6563"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6563"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6563"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}