{"id":6556,"date":"2017-07-10T11:38:35","date_gmt":"2017-07-10T10:38:35","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6556\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:39","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:39","slug":"galw-am-strategaeth-iaith-syn-ymateb-i-amgylchiadaur-unfed-ganrif-ar-hugain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/galw-am-strategaeth-iaith-syn-ymateb-i-amgylchiadaur-unfed-ganrif-ar-hugain\/","title":{"rendered":"Galw am strategaeth iaith sy\u2019n ymateb i amgylchiadau\u2019r unfed ganrif ar hugain"},"content":{"rendered":"<p>Mae prosiect ymchwil arloesol sy\u2019n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn holi a oes angen ail-ystyried tybiaethau traddodiadol yngl\u0177n \u00e2 sut i hybu adfywiad ieithoedd lleiafrifol.<\/p>\n<p>Bydd Adfywio Iaith a Thrawsnewid Cymdeithasol (Adfywio), prosiect dwy flynedd sy\u2019n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a\u2019r Dyniaethau, yn cyfarfod am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 22 a 23 Mai 2017.<\/p>\n<p>Nod y prosiect yw dwyn ynghyd gr\u0175p rhyngwladol o ymchwilwyr ym maes polisi iaith, ynghyd \u00e2 nifer o ymarferwyr polisi amlwg, er mwyn ystyried yn fanwl beth yw oblygiadau ystod o newidiadau cymdeithasol cyfoes i\u2019r ddealltwriaeth o sut ddylid llunio ymdrechion adfywio iaith sy\u2019n addas ar gyfer amgylchiadau bywyd ar ddechrau\u2019r unfed ganrif ar hugain.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith yn dechrau wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i weithredu eu strategaeth iaith newydd sydd \u00e2\u2019r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.<\/p>\n<p>Dywedodd un o gydlynwyr y prosiect, Dr Huw Lewis, Darlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: \u201cCaiff y cyfnod sy\u2019n pontio diwedd yr ugeinfed ganrif a blynyddoedd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain ei ystyried fel cyfnod o drawsnewid cymdeithasol pellgyrhaeddol.<\/p>\n<p>\u201cErbyn hyn mae cymdeithasau yn fwyfwy unigolyddol, amrywiol a symudol; mae eu heconom\u00efau yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig; ac mae eu strwythurau llywodraethol yn fwyfwy cymhleth, gan gwmpasu ystod eang o actorion gwahanol.<\/p>\n<p>\u201cYmhellach, mae ystod o\u2019r ffactorau sydd yn aml yn cael eu pwysleisio fel rhai allweddol i hyfywedd cymuned ieithyddol \u2013 er enghraifft y teulu, y gymuned leol, yr economi \u2013 yn gysylltiedig ag elfennau o\u2019n bywyd sydd wedi\u2019i heffeithio\u2019n fawr gan y patrymau yma o newid cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cWrth i natur ein cymdeithas newid mae lle i roi mwy o sylw i effaith tueddiadau cyfoes ar rai o\u2019n tybiaethau traddodiadol yngl\u0177n \u00e2 sut i adfywio ieithoedd llai. Er enghraifft, a oes angen ail-ystyried ein pwyslais traddodiadol ar y teulu yn sgil y newid yn y modd y mae teuluoedd yn trefnu eu bywyd dydd i ddydd ac yn gofalu am eu plant?<\/p>\n<p>\u201cHefyd, beth yw\u2019r goblygiadau\u2019r ffaith bod bywyd yn dod yn fwy symudol a bod ein harferion cymdeithasu yn newid? Yn ehangach, oes angen rhoi mwy o sylw i effaith tueddiadau fel mewnfudo, allfudo ac i shifft poblogaeth o fewn gwledydd?<\/p>\n<p>\u201cMae enghreifftiau tebyg i hyn yn tanlinellu\u2019r her sy\u2019n wynebu llywodraethau ar draws Ewrop fel Llywodraeth Cymru os ydynt am fedru gweithredu strategaethau iaith sy\u2019n ymateb i amgylchiadau bywyd ar ddechrau\u2019r unfed ganrif ar hugain.<\/p>\n<p>\u201cFel rhan o waith y prosiect Adfywio byddwn yn rhoi sylw i sefyllfa ystod o gymunedau iaith Ewropeaidd gyda\u2019r bwriad o adnabod gwersi a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi ac ymgyrchwyr iaith yng Nghymru ac ar draws Ewrop.\u201d<\/p>\n<p>Caiff Adfywio ei gydlynu ar y cyd rhwng Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a\u2019r Athro Wilson McLeod o Adran Astudiaethau Celtaidd ac Albanaidd Prifysgol Caeredin.<\/p>\n<p>Caiff y gweithdy ymchwil cyntaf a drefnir fel rhan o raglen waith y prosiect ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 22-23 Mai 2017.<\/p>\n<p>Thema\u2019r gweithdy, y cyntaf o bedwar, fydd \u2018Adfywio iaith, mudoledd a chymuned.\u2019<\/p>\n<p>Cynhelir yr ail weithdy \u201cAdfywio iaith a\u2019r trawsnewidiad mewn bywyd teuluol\u201d yng Nghaeredin ym mis Medi 2017.<\/p>\n<p>Cynhelir y trydydd gweithdy \u201cAdfywio iaith, globaleiddio a\u2019r economi ddigidol \u00f4l-ddiwydiannol\u201d yng ngwanwyn 2018 yn  Observatoire \u00c9LF, Prifysgol Geneva.<\/p>\n<p>Cynhelir y pedwerydd gweithdy, Adfywio iaith, y wladwriaeth a thrawsnewidiad llywodraethiant\u201d ym mis Medi 2018 yng Nghanolfan y Pierhead yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Ac yna yn Ionawr 2019 cynhelir cynhadledd grynhoi ym Mrwsel ar y pwnc \u201cAdfywio Iaith a Thrawsnewidiad Cymdeithasol\u201d.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect ymchwil arloesol sy\u2019n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn holi a oes angen ail-ystyried tybiaethau traddodiadol yngl\u0177n \u00e2 sut i hybu adfywiad ieithoedd lleiafrifol. Bydd Adfywio Iaith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6539,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6556","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6556","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6556"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6556\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8969,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6556\/revisions\/8969"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6556"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6556"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6556"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}