{"id":6550,"date":"2017-07-10T11:31:00","date_gmt":"2017-07-10T10:31:00","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6550\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:38","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:38","slug":"canolfan-gwleidyddiaeth-a-chymdeithas-cymru-i-gynnal-hystings-etholiad-cyffredinol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/canolfan-gwleidyddiaeth-a-chymdeithas-cymru-i-gynnal-hystings-etholiad-cyffredinol\/","title":{"rendered":"Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru i gynnal hystings Etholiad Cyffredinol"},"content":{"rendered":"<p>Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal hystings etholiadol ar nos Lun 5 Mehefin 2017.<\/p>\n<p>Sara Gibson o\u2019r BBC fydd yn cadeirio\u2019r noson a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ac yn dechrau am 7.30 yr hwyr.<\/p>\n<p>Gwahoddwyd ymgeiswyr o\u2019r prif bleidiau gwleidyddol sydd yn sefyll yng Ngheredigion i gyflwyno eu hachos ger bron yr etholwyr yn un o\u2019r cyfarfodydd cyhoeddus olaf cyn diwrnod yr etholiad ar yr 8fed o Fehefin.<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: \u201cRoedd hystings Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu fel digwyddiad o bwys yng nghyfnod etholiadau i\u2019r Senedd a\u2019r Cynulliad yma yng Ngheredigion.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n falch iawn felly bod Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn parhau gyda\u2019r traddodiad hwn. Rydym wedi dewis lleoliad canolog y Morlan ar gyfer y digwyddiad ac edrychwn ymlaen at yr un lefel o ddiddordeb a thrafodaethau gwleidyddol sydd wedi nodweddi hystings blaenorol a drefnwyd gan y Brifysgol.\u201d<\/p>\n<p>Mae croeso i bawb.<\/p>\n<p>Yr ymgeiswyr sydd yn sefyll yng Ngheredigion yw Ruth Rosamond Davis, Plaid Geidwadol Cymru; Grenville Morgan Ham, Plaid Werdd Cymru; Tom Harrison, UKIP Cymru; Ben Morgan Lake, Plaid Cymru \u2013 The Party of Wales; Dinah Mulholland, Llafur Cymru; The Crazed Sir Dudley, The Official Monster Raving Loony Party; a Mark Frazer Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.<\/p>\n<p>Lansiwyd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn swyddogol yn Ionawr 2017.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, yn ogystal \u00e2 gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau perthnasol sydd \u00e2 diddordeb yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn chwarae r\u00f4l allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal hystings etholiadol ar nos Lun 5 Mehefin 2017. Sara Gibson o\u2019r BBC fydd yn cadeirio\u2019r noson a fydd yn cael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6538,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[],"class_list":["post-6550","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6550","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6550"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6550\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8967,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6550\/revisions\/8967"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6550"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6550"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6550"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}