{"id":6547,"date":"2017-07-10T11:26:37","date_gmt":"2017-07-10T10:26:37","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cwps-copy\/?p=6547\/"},"modified":"2024-06-11T17:53:38","modified_gmt":"2024-06-11T16:53:38","slug":"lansio-ma-newydd-mewn-gwleidyddiaeth-a-chymdeithas-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/lansio-ma-newydd-mewn-gwleidyddiaeth-a-chymdeithas-cymru\/","title":{"rendered":"Lansio MA newydd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Gyda Brexit yn hawlio\u2019r sylw yn ystod cyfnod cynnar ymgyrchu etholiad cyffredinol San Steffan, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd MA newydd fydd yn ystyried gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes ar heriau wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.<\/p>\n<p>Cafodd yr MA mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ei lansio heddiw (ddydd Gwener 5 Mai 2017) gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a bydd yn croesawu\u2019i myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2017.<\/p>\n<p>Nod y radd MA newydd, sydd yn gwrs blwyddyn, yw hyrwyddo dealltwriaeth gadarn am gyd-destun hanesyddol, diwylliannol, economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol Cymru gyfoes.<\/p>\n<p>Mae pwyslais cryf hefyd ar gyflogadwyedd gyda chyfle gwerthfawr i ennill profiad gwaith yn y modiwlau a gynigir ar y cynllun.<\/p>\n<p>Cydlynydd y cynllun yw Dr Elin Royles, sy\u2019n uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac un o sylfaenwyr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gwrs sydd yn anelu at feithrin graddedigion sy\u2019n deall Cymru gyfoes o safbwynt amlddisgyblaethol sydd mor bwysig wrth i ddatganoli i Gymru ddyfnhau yn bellach ac wrth i ni wynebu\u2019r newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil Brexit.\u201d<\/p>\n<p>\u201cNodwedd arbennig y cwrs felly yw y bydd modiwlau ar draws tair adran uchel eu parch yn bwydo i\u2019r rhaglen: Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol.<\/p>\n<p>\u201cGall y cwrs roi sail arbennig i\u2019r rheiny sydd \u00e2 diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd yn gysylltiedig \u00e2 gwleidyddiaeth a pholisi yng Nghymru a\u2019r tu hwnt gan hefyd fod yn fan dechrau i astudio ar gyfer PhD.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Mike Woods, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: \u201cMae\u2019r cynllun yn rhan ganolog o waith y Ganolfan ac rydym yn ymfalch\u00efo y bydd yn galluogi myfyrwyr uwchraddedig i astudio mewn canolfan ymchwil sy\u2019n arwain yn rhyngwladol ar faterion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy\u2019n berthnasol i Gymru.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ei lansio yn Ionawr 2017 ac mae\u2019n adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, yn ogystal \u00e2 gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau perthnasol sydd \u00e2 diddordeb yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ganolfan hefyd yn chwarae r\u00f4l allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda Brexit yn hawlio\u2019r sylw yn ystod cyfnod cynnar ymgyrchu etholiad cyffredinol San Steffan, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd MA newydd fydd yn ystyried gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":6537,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[25],"tags":[20],"class_list":["post-6547","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-2","tag-newyddion-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6547","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6547"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6547\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8966,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6547\/revisions\/8966"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6547"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6547"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6547"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}