{"id":11266,"date":"2023-08-29T11:54:46","date_gmt":"2023-08-29T10:54:46","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/galw-am-luniau-o-annibyniaeth-gan-ffotograffwyr-ardal-caernarfon\/"},"modified":"2024-09-18T13:32:01","modified_gmt":"2024-09-18T12:32:01","slug":"galw-am-luniau-o-annibyniaeth-gan-ffotograffwyr-ardal-caernarfon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/galw-am-luniau-o-annibyniaeth-gan-ffotograffwyr-ardal-caernarfon\/","title":{"rendered":"Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy\u2019n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw\u2019n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth.<br\/><br\/>Bydd gofyn i\u2019r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau ac yna mynychu sesiwn yn Y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 30 Medi i drafod sut a pham wnaethon nhw ddewis eu delweddau.<br\/><br\/>Mae\u2019r alwad yn rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol dan arweiniad Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.<br\/><br\/>Nod y prosiect yw archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a\u2019r Alban.<br\/><br\/>Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth:<br\/><br\/>\u201cYng Nghymru, fel rhan o\u2019n prosiect ymchwil, rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda ffotograffwyr yn ardal Aberystwyth ac mae\u2019r gwaith yn ehangu i gymoedd y De hefyd. Gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ddelweddau o bob rhan o Gymru, rydyn ni\u2019n gobeithio bydd ffotograffwyr ardal Caernarfon eisiau bod yn rhan o\u2019r astudiaeth ddiddorol yma. Y bwriad yw adlewyrchu ystod barn eang ac ry\u2019n ni\u2019n croesawu cyfraniadau gan unigolion sydd \u00e2 safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal \u00e2 rhai sydd heb feddwl am y mater o gwbl.\u201d<br\/><br\/>Dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth:<br\/><br\/>\u201cMae\u2019r prosiect yma yn datblygu dull newydd sbon o ymchwilio i \u2018Annibyniaeth\u2019. Hyd yma, mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r gwaith ymchwil yn y maes wedi canolbwyntio ar ymatebion i arolygon barn ac i ffactorau demograffig, fel oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond ry\u2019n ni\u2019n cloddio\u2019n ddyfnach ac \u00e2 diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio\u2019r ffordd mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd gan ddechrau gyda ffotograffau.<br\/><br\/>\u201cDrwy weithio yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia, y nod yw ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy\u2019n hysbys hyd yma am farn pobl mewn perthynas ag Annibyniaeth. Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a\u2019r Alban, lle mae\u2019r dadlau\u2019n ddwys ac wedi\u2019i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a\u2019r cyfryngau.\u201d<br\/><br\/>Gall ffotograffwyr o ardal Caernarfon sydd \u00e2 diddordeb yn y prosiect <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/calling-photographers-in-caernarfon-and-the-area\/\">gofrestru ar-lein<\/a> neu gysylltu\u2019n uniongyrchol gydag Elin Royles ar <a href=\"mailto:ear@aber.ac.uk\">ear@aber.ac.uk<\/a> am fwy o wybodaeth.<br\/><br\/>Bydd detholiad o\u2019r lluniau o ardal Caernarfon yn cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd ffotograffiaeth sy\u2019n cael eu cynllunio gan y prosiect yng Nghymru a Chatalwnia. <br\/><br\/>Ariennir y prosiect gan <a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/councils\/esrc\/\">Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)<\/a> fel rhan o\u2019i raglen <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/cy\/\">WISERD<\/a> (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru).<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/sharer\/sharer.php?u=https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/news\/archive\/2023\/08\/title-266134-en.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><\/a><a href=\"https:\/\/twitter.com\/intent\/tweet?text=Call%20for%20Images%20illustrating%20Independence%20by%20Caernarfon%20Area%20Photographers&amp;url=https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/news\/archive\/2023\/08\/title-266134-en.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><\/a><a href=\"mailto:?subject=Call%20for%20Images%20illustrating%20Independence%20by%20Caernarfon%20Area%20Photographers&amp;body=https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/news\/archive\/2023\/08\/title-266134-en.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><\/a><\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltiadau<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Elin Royles<br\/>Department of International Politics, <br\/>Aberystwyth University<br\/><a href=\"mailto:ear@aber.ac.uk\">ear@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dolenni<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/\">Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol<\/a><br\/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy\u2019n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw\u2019n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth. Bydd gofyn i\u2019r ffotograffwyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10008,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[38],"tags":[],"class_list":["post-11266","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11266","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11266"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11266\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11480,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11266\/revisions\/11480"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10008"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11266"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11266"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11266"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}