{"id":11205,"date":"2024-02-26T11:27:05","date_gmt":"2024-02-26T11:27:05","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=10610"},"modified":"2024-09-09T12:05:17","modified_gmt":"2024-09-09T11:05:17","slug":"adroddiad-allfudo-arfor","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/adroddiad-allfudo-arfor\/","title":{"rendered":"Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy\u2019n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd \u00e2\u2019r nod o adolygu a gwerthuso gwaith rhaglen ARFOR II.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Rhaglen ARFOR yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Gwynedd, M\u00f4n, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cynlluniau sydd \u00e2\u2019r nod o hybu datblygiad economaidd ar draws siroedd y gorllewin, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd ei sefydlu yn 2019, yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o \u00a32 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2022 daeth cadarnhad bod y Llywodraeth yn bwriadu darparu \u00a311 miliwn pellach er mwyn ariannu ail gam ARFOR a fydd yn rhedeg hyd fis Mawrth 2025.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Teitl y gweithdy cyntaf oedd&nbsp;<strong>\u2018ARFOR, allfudo a\u2019r Gymraeg\u2019.&nbsp;<\/strong>Nod y digwyddiad oedd trafod ymchwil cyfoes o Gymru ar bwnc allfudo ac ystyried ei berthnasedd i waith rhaglen ARFOR II. Cafwyd cyflwyniadau gan Dr Huw Lloyd-Williams (Wavehill), yr Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth), Elen Bonner (Prifysgol Bangor) a Dr Lowri Cunnington Wynn (Prifysgol Aberystwyth).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Teitl yr ail weithdy oedd \u2018&nbsp;<strong>Aros, allfudo neu ddychwelyd? Gosod y profiad Cymreig mewn cyd-destun cymharol\u2019.&nbsp;<\/strong>Bwriad y gweithdy hwn oedd ehangu gorwelion gan drafod ymchwil sydd wedi astudio allfudo mewn ystod o gyd-destunau Ewropeaidd eraill. O ganlyniad cafwyd cyflwyniadau gan&nbsp;Dr Caitr\u00edona Ni Laoire (Coleg Prifysgol Corc), Dr Rosie Alexander (Prifysgol Gorllewin yr Alban), yr Athro&nbsp;Tialda Haartsen (Prifysgol Groningen, yr Iseldiroedd) a Dr Annett Steinfuhrer (Sefydliad Materion Gwledig Th\u00fcnen, yr Almaen).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r adroddiad yn crynhoi prif elfennau&#8217;r drafodaeth a gafwyd yn ystod y ddau weithdy, gan gyfeirio at gynnwys y cyflwyniadau ymchwil a draddodwyd, a hefyd y cwestiynau a&#8217;r sylwadau a gododd yn ystod y cyfnodau trafod dilynol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trefnwyd yr adroddiad ar sail thematig, ac mae&#8217;n tynnu sylw at gyfres o them\u00e2u allweddol a gododd yn ystod y gweithdai:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Deall allfudo a mudo dychweliadol: ystyriaethau cyffredinol&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Tystiolaeth o agweddau pobl ifanc yngl\u0177n&nbsp;\u00e2&nbsp;bywyd yng nghefn gwlad Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Creu teipolegau o agweddau pobl ifanc o Gymru yngl\u0177n&nbsp;\u00e2&nbsp;mudo<\/li>\n\n\n\n<li>Ffactorau sy\u2019n cymell allfudo<\/li>\n\n\n\n<li>Ffactorau sy\u2019n dylanwadu ar fudo dychweliadol<\/li>\n\n\n\n<li>Deall cymhellion y sawl sy\u2019n \u2018aros\u2019<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ffurf PDF yma: <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2024\/02\/Adroddiad-briffio-gweithdai-allfudo-TERFYNOL.pdf\">https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2024\/02\/Adroddiad-briffio-gweithdai-allfudo-TERFYNOL.pdf<\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cysylltiadau<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Huw Lewis<br>Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,&nbsp;<br>Prifysgol Aberystwyth&nbsp;&nbsp;<br><a href=\"mailto:hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Lowri Cunnington Wynn<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lac\/\">Adran Y Gyfraith a Throseddeg<\/a>, Prifysgol Aberystwyth&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"mailto:lac48@aber.ac.uk\">lac48@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy\u2019n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023.&nbsp; Trefnwyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11353,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[19,38,1],"tags":[],"class_list":["post-11205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-newyddion-cy","category-uncategorised"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11205"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11355,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11205\/revisions\/11355"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11353"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}