{"id":11200,"date":"2024-02-09T15:25:52","date_gmt":"2024-02-09T15:25:52","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=10524"},"modified":"2024-09-09T12:14:18","modified_gmt":"2024-09-09T11:14:18","slug":"wiserd-yn-cyflwyno-ymchwil-cymdeithas-sifil-i-lunwyr-polisiau-ym-mrwsel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wiserd-yn-cyflwyno-ymchwil-cymdeithas-sifil-i-lunwyr-polisiau-ym-mrwsel\/","title":{"rendered":"WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polis\u00efau ym Mrwsel"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac&nbsp;<\/em><em>Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB)<\/em><em>&nbsp;ar gyfer llunwyr polis\u00efau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau\u2019r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno ar Agenda Strategol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2024-29, a fydd yn ceisio sicrhau \u201cEwrop gadarn, ddeinamig, gystadleuol a chydlynol mewn byd sy\u2019n newid\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y datganiad o gyfarfod cychwynnol ym mis Hydref y llynedd, dywedodd y Cyngor, \u201cbyddwn yn rhagweld heriau posibl ac yn manteisio ar y cyfleoedd i\u2019n Hundeb yn y trawsnewidiadau gwyrdd a digidol, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein model economaidd, gan adael neb ar \u00f4l\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth cydweithwyr o rwydweithiau Ewropeaidd, a llywodraethau a phrifysgolion rhanbarthol o Ewrop i weithdy WISERD-WHEB, a gynhaliwyd yn Nh\u0177 Cymru ym Mrwsel, lle buont yn archwilio r\u00f4l cymdeithas sifil wrth adeiladu Ewrop gadarn, ddeinamig a chydlynol. Cyflwynwyd achos dros roi cymdeithas sifil wrth wraidd yr agenda newydd gan ymchwilwyr o\u2019n Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil a ariennir gan ESRC a\u2019r rhai sy\u2019n ymwneud \u00e2 phrosiectau a ariennir gan Horizon 2020.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy raglen o gyflwyniadau byr, a oedd yn dangos y cysylltiadau rhwng ymchwil ddiweddaraf WISERD i gymdeithas sifil a blaenoriaethau allweddol polisi Ewropeaidd, nododd ein hymchwilwyr syniadau ynghylch sut y gall sefydliadau cymdeithas sifil ac ymgyrchwyr gyfrannu at yr agenda newydd, a sut y gellir eu cefnogi i wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y cyfraniadau\u2019n canolbwyntio ar adeiladu econom\u00efau cadarn a chynhwysol, gwella cydlyniant cymdeithasol, a rheoli\u2019r trawsnewid digidol. Roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Astudiaethau achos ar yr Economi Sylfaenol yn Amsterdam, Zagreb a\u2019r DU;<\/li>\n\n\n\n<li>Dadansoddiad o ddogfennau polisi\u2019r UE a sylwebaethau cymdeithas sifil ar Ddeallusrwydd Artiffisial;<\/li>\n\n\n\n<li>Ymchwil gyda sefydliadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Tsiecia, Cymru a Lloegr;<\/li>\n\n\n\n<li>Cymharu fframweithiau UNICEF ar gyfer dinasoedd sy\u2019n dda i blant yn Ffrainc, Lloegr ac UDA;<\/li>\n\n\n\n<li>Dadansoddiad meintiol o anghydraddoldebau tiriogaethol ar draws Ewrop ac ymchwil ansoddol ar ymatebion cymdeithas sifil;<\/li>\n\n\n\n<li>Astudiaethau achos o gamau gweithredu cymdeithas sifil i wrthsefyll polareiddio yng Nghymru ac Iwerddon;<\/li>\n\n\n\n<li>Gwaith arloesol gyda chymunedau gan ddefnyddio data hyperleol yng Nghymru.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r prosiectau WISERD hyn wedi cynnwys ymchwilwyr yn y pum prifysgol yng Nghymru sy\u2019n rhan o WISERD \u2013 Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a De Cymru \u2013 a phartneriaid o bob cwr o\u2019r DU, Ewrop a\u2019r byd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd cydweithwyr WISERD ac Addysg Uwch Cymru Brwsel gyfle i drafod y blaenoriaethau sy\u2019n debygol o fod yn rhan o dair blynedd olaf rhaglen Horizon Ewrop, er mwyn helpu i lunio ymgysylltiad \u00e2\u2019r rhaglen yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda\u2019r Agenda Strategol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd ar fin cael ei chwblhau, mae hwn yn gyfle gwych i ymchwilwyr WISERD gyflwyno canfyddiadau o raglenni ymchwil a ariennir gan ESRC a Horizon yr UE i ystod eang o gydweithwyr sy\u2019n gweithio yn Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n falch iawn o fod wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Addysg Uwch Cymru Brwsel i ddarparu\u2019r llwyfan hwn ar gyfer ein hymchwil ryngddisgyblaethol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, ac i ddangos effaith a chyrhaeddiad yr ymchwil a wneir gan brifysgolion Cymru.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 chynnal y gweithdy ar y cyd yn Nh\u0177 Cymru, roedd t\u00eem WISERD hefyd yn falch iawn o rannu ymchwil mewn derbyniad i gyn-fyfyrwyr ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain, a drefnwyd gan Addysg Uwch Cymru Brwsel ac a gefnogwyd gan Cymru Fyd-eang. Croesawyd y rhai a oedd yn bresennol gan Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, a Derek Vaughan, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, a rannodd ymrwymiad Cymru i ymgysylltu \u00e2 rhaglen Horizon Ewrop ac i symudedd addysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cyn-fyfyrwyr, a astudiodd mewn prifysgolion ledled Cymru, bellach yn gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd, yn Senedd Ewrop ac mewn sefydliadau a rhwydweithiau Ewropeaidd eraill, mewn amrywiaeth o feysydd polisi, gan gynnwys symudedd, ynni ac amaethyddiaeth. Cawsant gyfle i gysylltu a rhwydweithio wrth hel atgofion am eu hamser yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae WISERD yn ddiolchgar i gydweithwyr yn Addysg Uwch Cymru Brwsel am eu cefnogaeth gyda\u2019r digwyddiadau ac i bawb a ddaeth iddynt ac sydd wedi dangos diddordeb mewn cydweithio ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/cy\/newyddion\/wiserd-presents-civil-society-research-to-policymakers-in-brussels-cy\/\">WISERD<\/a><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac&nbsp;Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB)&nbsp;ar gyfer llunwyr polis\u00efau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11364,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[19,38,1],"tags":[],"class_list":["post-11200","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-newyddion-cy","category-uncategorised"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11200","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11200"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11200\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11367,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11200\/revisions\/11367"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11364"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11200"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11200"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11200"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}