{"id":11154,"date":"2022-11-15T14:30:00","date_gmt":"2022-11-15T14:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/trafod-cryfhau-democratiaeth-yng-nghymru-mewn-cynhadledd-am-y-cyfryngau\/"},"modified":"2024-09-10T14:08:57","modified_gmt":"2024-09-10T13:08:57","slug":"trafod-cryfhau-democratiaeth-yng-nghymru-mewn-cynhadledd-am-y-cyfryngau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/trafod-cryfhau-democratiaeth-yng-nghymru-mewn-cynhadledd-am-y-cyfryngau\/","title":{"rendered":"Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhelir \u2018Lleisiau\u2019r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau\u2019n Gweithio dros Gymru\u2019 yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae\u2019n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS, a\u2019r newyddiadurwr arobryn Shirish Kulkarni.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn rhan o\u2019r rhaglen bydd Dr Anwen Elias, Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD a Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arwain trafodaeth am y rhan y gall sgyrsiau ymgynghori eu chwarae mewn democratiaeth gydag Yvonne Murphy o\u2019r Talking Shop, sef canolfan wybodaeth am ddiwylliant a democratiaeth yng Nghaerdydd.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Elias yw arweinydd y prosiect Dyfodol Cyfansoddiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth \u2013 prosiect sy\u2019n ceisio ysgogi sgyrsiau newydd yngl\u0177n \u00e2 sut y dylem gael ein llywodraethu, a hynny fel sail i ddychmygu gwahanol ddyfodol cyfansoddiadol. Mae\u2019r prosiect yn archwilio ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion mewn trafodaethau am lywodraethu tiriogaethol sy\u2019n effeithio arnynt ond nad ydynt, yn aml iawn, yn eu cynnwys.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l Dr Elias:<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae hwn yn gyfle gwych i rannu canfyddiadau prosiect sydd wedi bod yn defnyddio dulliau creadigol megis gwneud collage i ddechrau sgyrsiau newydd am sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Rwy\u2019n gobeithio y gall ein canfyddiadau gyfrannu at drafodaeth ehangach am sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y Sefydliad Materion Cymreig a\u2019r Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd yn cyflwyno gwaith Panel Dinasyddion a ddaeth ynghyd yn ystod yr haf i drafod y cwestiwn: \u2018Pa mor dda mae\u2019r newyddion yn eich helpu i ddeall gwleidyddiaeth?\u2019, gan drafod sut y gallai\u2019r cyfryngau yng Nghymru ddiwallu anghenion pobl a chymunedau yn well, yn ogystal \u00e2 thrafod yr ymateb i\u2019w hargymhellion gan weithwyr proffesiynol o\u2019r diwydiant a chan wleidyddion.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys awduron sy\u2019n trafod darlledu yng Nghymru yn y gorffennol a heddiw, a byddwn yn dathlu lansio ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig sy\u2019n ystyried sut y gallai fod angen newid y fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn addas ar gyfer Cymru\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae \u2018Lleisiau\u2019r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau\u2019n Gweithio dros Gymru\u2019 yn cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Gwasg Prifysgol Cymru a Newport Live.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i: <br\/><a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.iwa.wales%2Feventbrite-event%2Fcitizens-voices-peoples-news-making-the-media-work-for-wales%2F&amp;data=05%7C01%7C%7C30967ea15a7c46e84d7d08dac1844087%7Cd47b090e3f5a4ca084d09f89d269f175%7C0%7C0%7C638035070996464169%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=8AgBk6AMF%2B2aVGwIcNfpUGF5OIRWbpuC1nx4qLMKeOY%3D&amp;reserved=0\">https:\/\/www.iwa.wales\/eventbrite-event\/citizens-voices-peoples-news-making-the-media-work-for-wales\/<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar<\/em> <a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.aber.ac.uk%2Fen%2Fnews%2Farchive%2F2022%2F11%2Ftitle-259722-en.html&amp;data=05%7C01%7C%7Cf41faa16e78a4a0b0e7f08dac71413b7%7Cd47b090e3f5a4ca084d09f89d269f175%7C0%7C0%7C638041186288976361%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=60Mgkgzd1TrSf7i7sq4T%2FOuNCR9FKmNZ7NID9SGBoms%3D&amp;reserved=0\"><em>wefan Prifysgol Aberystwyth<\/em><\/a><em>.<\/em><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity is-style-wide\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltiadau<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Anwen Elias, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth<br\/><a href=\"mailto:awe@aber.ac.uk\">awe@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Alice Earp, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth<br\/><a href=\"mailto:ale@aber.ac.uk\">ale@aber.ac.uk<\/a>   <\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dolenni<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/\">Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon. Cynhelir \u2018Lleisiau\u2019r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11379,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-11154","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11154","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11154"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11154\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11155,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11154\/revisions\/11155"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11379"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11154"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11154"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11154"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}