{"id":11134,"date":"2022-09-23T11:09:00","date_gmt":"2022-09-23T10:09:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/penodau-newydd-i-academydd-cwps-wiserd-ar-bolisi-a-chynllunio-iaith\/"},"modified":"2024-09-10T14:12:32","modified_gmt":"2024-09-10T13:12:32","slug":"penodau-newydd-i-academydd-cwps-wiserd-ar-bolisi-a-chynllunio-iaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/penodau-newydd-i-academydd-cwps-wiserd-ar-bolisi-a-chynllunio-iaith\/","title":{"rendered":"Penodau newydd i academydd CWPS-WISERD ar bolisi a chynllunio iaith"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tri academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ysgrifennu penodau mewn llyfr newydd sy\u2019n dathlu cyfraniad yr Athro Colin Williams i faes polisi a chynllunio iaith. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <em><a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-94346-2\">Language, Policy and Territory<\/a><\/em> yn cynnwys 18 pennod gan gyn-fyfyrwyr a chyn-gydweithwyr Williams yn fewnol ac allanol, gan gynnwys <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/contact-us\/directory\/staff\/profile\/raj\/\" target=\"_blank\">yr Athro Rhys Jones<\/a>, <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/contact-us\/directory\/staff\/profile\/hhl\/\" target=\"_blank\">Dr Huw Lewis<\/a> a <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/contact-us\/directory\/staff\/profile\/ear\/#research\" target=\"_blank\">Dr Elin Royles<\/a>, sy\u2019n gweithio yng <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/\">Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru<\/a> (CWPS). Mae\u2019r Ganolfan hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\">Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru<\/a> (WISERD).<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r gyfrol yn ymdrin ag ystod o bynciau sy\u2019n cynnwys gwahanol agweddau ar ddeddfwriaeth iaith a hawliau iaith, llywodraethu, economeg, tiriogaetholdeb, cynllunio defnydd tir, ac onomasteg.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ysgrifennwyd y bennod gyntaf yn y llyfr, <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/chapter\/10.1007\/978-3-030-94346-2_2\"><em>Examining the Political Origins of Language Policies<\/em><\/a>, gan Lewis a Royles ac mae\u2019n dadansoddi gwreiddiau polis\u00efau iaith penodol ac yn olrhain eu datblygiad dros amser.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Maen nhw\u2019n dadlau bod y llenyddiaeth bresennol ar bolisi iaith yn methu \u00e2 nodi sut a pham mae dewisiadau penodol yn dod i\u2019r amlwg a sut mae\u2019r rhain yn gysylltiedig \u00e2 ffactorau gwleidyddol. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mhennod 7, <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/chapter\/10.1007\/978-3-030-94346-2_8\"><em>Networked Territories of Language and Nation<\/em><\/a><em>,<\/em> mae Jones yn dadansoddi tiriogaethau rhwydweithiol iaith a chenedl, gan nodi\u2019r newid o ffocws academaidd ar hanes ac oes cenhedloedd i sylw daearyddol ar dirweddau, pwysigrwydd safleoedd a lleoedd penodol, ac arwyddoc\u00e2d tiriogaeth. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Jones yn defnyddio\u2019r dehongliad rhwydwaith hwn o diriogaethau cenedlaethol i archwilio graddau tiriogaethol yr ymdeimlad o Gymreictod a ddiffinnir yn \u00f4l gallu yn y Gymraeg. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Golygir y gyfrol gan <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-94346-2#author-1-0\">Wilson McLeod<\/a>, <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-94346-2#author-1-1\">Rob Dunbar<\/a>, <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-94346-2#author-1-2\">Kathryn Jones<\/a>, <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-94346-2#author-1-3\">John Walsh<\/a> ac ma hefyd yn cynnwys penodau ar ddamcaniaethu polisi a rheoleiddio iaith ac yn ymchwilio i heriau polisi iaith yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Canada a Chatalwnia<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Comisiynwyr y Gymraeg a\u2019r Wyddeleg, Gwenith Price a R\u00f3n\u00e1n \u00d3 Domhnaill, yn lansio\u2019r llyfr yn ffurfiol ddydd Iau, 29<sup>ain<\/sup> Medi 2022 am 5pm mewn digwyddiad a drefnir gan <a href=\"https:\/\/www.iaith.cymru\/en\">IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith<\/a>. Mae rhagor o fanylion am sut i gofrestru ar gael <a href=\"https:\/\/us02web.zoom.us\/webinar\/register\/WN_FsObDBVVQU2xlbRk7AYK6A\">yma<\/a>.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity is-style-wide\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltiadau<\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr Athro Rhys Jones <a href=\"mailto:raj@aber.ac.uk\">raj@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Huw Lewis <a href=\"mailto:hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk <\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Elin Royles <a href=\"mailto:ear@aber.ac.uk\">ear@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/\">Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru<\/a> (CWPS) <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/new-chapters-for-cwps-wiserd-members-on-language-policy-and-planning%ef%bf%bc\/cwps@aber.ac.uk\">cwps@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.iaith.cymru\/en\">IAITH: Welsh centre for language planning<\/a> <a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/new-chapters-for-cwps-wiserd-members-on-language-policy-and-planning%ef%bf%bc\/post@iaith.cymru\">post@iaith.cymru<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\">Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru<\/a> (WISERD) <a href=\"mailto:WISERD@cardiff.ac.uk\">WISERD@cardiff.ac.uk<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/\">Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol<\/a>, Prifysgol Aberystwyth <a href=\"mailto:interpol@aber.ac.uk\">interpol@aber.ac.uk <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae tri academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ysgrifennu penodau mewn llyfr newydd sy\u2019n dathlu cyfraniad yr Athro Colin Williams i faes polisi a chynllunio iaith. Mae Language, Policy and Territory [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11132,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-11134","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11134","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11134"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11134\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11380,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11134\/revisions\/11380"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11132"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11134"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11134"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11134"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}