{"id":10250,"date":"2023-12-11T10:52:24","date_gmt":"2023-12-11T10:52:24","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=10250"},"modified":"2024-09-18T13:19:57","modified_gmt":"2024-09-18T12:19:57","slug":"sector-gwirfoddol-cymru-gogledd-iwerddon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/sector-gwirfoddol-cymru-gogledd-iwerddon\/","title":{"rendered":"Patrymau Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ddydd Iau 16 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol ddigwyddiad i ystyried y ffordd y mae Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod a&#8217;u hymchwilio, ac a oedd hynny&#8217;n wahanol o\u2019i gymharu \u00e2 gweddill y DU.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Roedd Dr Amy Sanders yn un o\u2019r panelwyr.&nbsp;&nbsp;Mae Dr Sanders yn academydd o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru&nbsp;&nbsp;(WISERD) sydd yn rhan o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Defnyddiodd Dr Sanders ei hymchwil presennol am swyddogaethau gwirfoddoli elitaidd o fewn elusennau Cymru (t\u00eem ymchwil Aberystwyth: Jesse Heley a Flossie Caerwynt) a&#8217;i hymchwil ar sut mae cymdeithas sifil yn ymateb i boblyddiaeth a pholareiddio (t\u00eem ymchwil Aberystwyth: Michael Woods, Rhys Dafydd Jones, Flossie Caerwynt).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth hefyd ddefnydd helaeth o\u2019i hymchwil flaenorol am y berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru.&nbsp;&nbsp;Mae&#8217;r tri phrosiect ymchwil yn cael eu hariannu fel rhan o\u2019r ymchwil cymdeithas sifil a ddatblygwyd gan WISERD.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Carol Jacklin-Jarvis, Cadeirydd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol (VSSN) a Dr Jurgen Grotz, un o ymddiriedolwr VSSN ac a drefnodd y digwyddiad.&nbsp;&nbsp;Roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys yr Athro Carl Milofsky sy&#8217;n athro emeritws mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bucknell, a golygydd y cyfnodolion&nbsp;<em>Nonprofit and Voluntary Sector Quarterly<\/em>&nbsp;a&#8217;r&nbsp;<em>Voluntary Sector Review<\/em>; Yr Athro Dirk Schubotz o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Queen&#8217;s Belfast; Dr Nick Acheson, sydd wedi cyhoeddi&#8217;n eang ar bwnc y sector gwirfoddol yng Ngogledd Iwerddon, Iwerddon ac yng Nghanada.&nbsp;&nbsp;&nbsp;Mae&#8217;n aelod o Fwrdd y mudiad Volunteer Now; Denise Hayward sef Prif Weithredwr Volunteer Now; Celine McStravick sef Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon (NICVA).&nbsp;&nbsp;Roedd Dr Christala Sophocleous o Adran Polisi Cymdeithasol Prifysgol Abertawe hefyd yn aelod o&#8217;r panel.&nbsp;&nbsp;Cyfrannodd hi o flaen llaw oherwydd amgylchiadau annisgwyl.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cytunodd y Panel bod Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn gweithredu mewn cyd-destunau sy\u2019n wahanol yn sylfaenol i&#8217;r cyd-destun yn Lloegr.&nbsp;&nbsp;Mae gan hyn oblygiadau pwysig o ran polisi ac ymarfer nad ydynt, ar hyn o bryd, wedi eu deall yn drylwyr ac efallai nad yw\u2019r polisi ledled y DU yn adlewyrchu hyd yma unrhyw ganfyddiadau sydd mewn bodolaeth.&nbsp;&nbsp;Ar ben hynny, er y nodwyd rhai pethau oedd yn gyffredin rhwng elfennau cyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, roedd gwahaniaethau amlwg yn y modd y mae&#8217;r sector gwirfoddol wedi cael ei lunio gan ddatblygiadau gwleidyddol cyfoes.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae disgwyl i&#8217;r recordiad o&#8217;r drafodaeth fod ar gael ar wefan VSSN.&nbsp;&nbsp;Roedd y digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau VSSN &#8216;Llunio Rhwydweithiau o Gysylltiadau Ymchwil Astudiaethau Sector Gwirfoddol o fewn pedair gwlad y DU ac ar draws y DU&#8217;. Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngogledd Iwerddon, yn y Gwanwyn, 2024.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyswllt&nbsp;<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Amy Sanders&nbsp;<a href=\"mailto:ams48@aber.ac.uk\">ams48@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dolenni<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.vssn.org.uk\/\">Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol (VSSN)&nbsp;<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar ddydd Iau 16 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol ddigwyddiad i ystyried y ffordd y mae Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod a&#8217;u [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9876,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[19,38],"tags":[],"class_list":["post-10250","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-newyddion-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10250"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11458,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10250\/revisions\/11458"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9876"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}