{"id":10234,"date":"2023-12-01T16:29:42","date_gmt":"2023-12-01T16:29:42","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=10234"},"modified":"2024-09-18T13:22:17","modified_gmt":"2024-09-18T12:22:17","slug":"maer-gymraeg-yn-cael-ei-defnyddio-i-annog-ymfudwyr-i-deimlon-gartrefol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/maer-gymraeg-yn-cael-ei-defnyddio-i-annog-ymfudwyr-i-deimlon-gartrefol\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo\u2019n\u00a0gartrefol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd \u00e2\u2019r grym i benderfynu pwy all gael mynediad i\u2019r wlad, a hi sy\u2019n gyfrifol am lunio polis\u00efau mudo a lloches. Ond mae gan lywodraethau datganoledig y gallu i ddefnyddio\u2019u&nbsp;<a href=\"https:\/\/researchbriefings.files.parliament.uk\/documents\/CBP-8599\/CBP-8599.pdf\">grymoedd hwy<\/a>&nbsp;mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar natur y cymorth a gynigir i newydd-ddyfodiaid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth Cymru wedi&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/1369183X.2023.2198809\">edrych am ffyrdd<\/a>&nbsp;gwahanol o defnyddio\u2019i grymoedd datganoledig er mwyn cynorthwyo ffoaduriaid a mewnfudwyr i integreiddio yng Cymru. Ac fel rhan o hyn rhoddwyd pwyslais cynyddol ar r\u00f4l yr iaith Gymraeg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">At ei gilydd, yr amcan fu ceisio datblygu amgylchedd croesawgar a chefnogol yng Nghymru. Mae hyn yn cyferbynnu \u00e2\u2019r pwyslais mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi\u2019i roi ar yr angen i&nbsp;<a href=\"https:\/\/migrationobservatory.ox.ac.uk\/resources\/briefings\/long-term-international-migration-flows-to-and-from-the-uk\/\">leihau mudo net<\/a>, ac ar geisio creu&nbsp;<a href=\"https:\/\/inews.co.uk\/news\/politics\/what-is-hostile-environment-theresa-may-windrush-eu-citizens-legal-immigrants-145067\">\u201camgylchedd gelyniaethus\u201d<\/a>&nbsp;i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y cam mwyaf arwyddocaol a gymerwyd hyd yma gan lywodraeth Cymru oedd cyhoeddi&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-ffoaduriaid-cheiswyr-lloches-cenedl-noddfa?_gl=1*hkjmzu*_ga*MTU3NDAyODI1MS4xNjkzODIxMjUy*_ga_L1471V4N02*MTY5OTg4OTQyNS4yNi4wLjE2OTk4ODk0MjUuMC4wLjA.&amp;_ga=2.269041457.1195845828.1699807919-1574028251.1693821252\">cynllun<\/a>&nbsp;yn 2019 yn amlinellu camau ar gyfer troi Cymru yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-cymru-cenedl-noddfa?_ga=2.264264527.1195845828.1699807919-1574028251.1693821252&amp;_gl=1*1c0cynv*_ga*MTU3NDAyODI1MS4xNjkzODIxMjUy*_ga_L1471V4N02*MTY5OTg4OTQyNS4yNi4xLjE2OTk4ODk1MjcuMC4wLjA.\">\u201cgenedl noddfa\u201d<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, elfen arwyddocaol arall \u2013- ond llai amlwg \u2013- o waith llywodraeth Cymru fu\u2019r camau a gymerwyd i sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan mwy blaenllaw yn y broses o groesawu mewnfudwyr a cheiswyr lloches.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth drafod pwysigrwydd y gwaith hwn, dadleuodd&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/jane-hutt?_ga=2.264264527.1195845828.1699807919-1574028251.1693821252&amp;_gl=1*18je93l*_ga*MTU3NDAyODI1MS4xNjkzODIxMjUy*_ga_L1471V4N02*MTY5OTg4OTQyNS4yNi4xLjE2OTk4ODk1NTcuMC4wLjA.\">Jane Hutt<\/a>, gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Cymru, y gallai\u2019r iaith Gymraeg fod yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/64811421\">\u201carf integreiddio pwerus iawn\u201d<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Lletygarwch ac integreiddio<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir gweld sut mae\u2019r sylw a roddir i\u2019r Gymraeg fel rhan o\u2019r broses integreiddio wedi datblygu wrth olrhain esblygiad y ddarpariaeth ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2013,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/tougher-language-requirements-announced-for-british-citizenship\">torrwyd<\/a>&nbsp;y cyswllt traddodiadol rhwng y ddarpariaeth ESOL a\u2019r broses o sicrhau dinasyddiaeth yn y Deyrnas Gyfunol yn sgil newidiadau polisi a gyflwynwyd gan glymblaid y Ceidwadwyr a\u2019r Democratiaid Rhyddfrydol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o ganlyniadau annisgwyl y newid hwn oedd creu cyfle i ddatblygu dull neilltuol yng Nghymru ar gyfer darparu addysg ieithyddol i ymfudwyr. O ganlyniad, flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd llywodraeth Cymru ei&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/saesneg-ar-gyfer-siaradwyr-ieithoedd-eraill-datganiad-polisi?_gl=1*2bp0sp*_ga*MTU3NDAyODI1MS4xNjkzODIxMjUy*_ga_L1471V4N02*MTY5OTgwNzU5Ny4yNS4wLjE2OTk4MDc1OTcuMC4wLjA.&amp;_ga=2.47543975.1896786947.1699807597-1574028251.1693821252\">bolisi ESOL cyntaf<\/a>. Hwn oedd y polisi cyntaf o\u2019i fath i gael ei gyhoeddi gan unrhyw lywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd y polisi ESOL gwreiddiol yn gwneud cysylltiad rhwng y Gymraeg ac integreiddio ieithyddol. Ond roedd&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2019-11\/polisi-saesneg-ar-gyfer-siaradwyr-ieithoedd-eraill-esol-nghymru.pdf\">fersiwn ddiweddarach<\/a>, a gyhoeddwyd yn 2019, yn galw ar ddarparwyr ESOL yng Nghymru i \u201cgynnwys y Gymraeg yn eu gwersi\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwyd bod hyn yn angenrheidiol gan y \u201cgall yr iaith Gymraeg fod yn sgil werthfawr yn y gweithle\u201d. Yn ogystal, nodwyd bod dysgu Cymraeg yn medru hwyluso \u201cintegreiddio cymdeithasol\u201d, yn enwedig mewn \u201cardaloedd lle mae\u2019r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ochr yn ochr a hyn, bu\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/dysgucymraeg.cymru\/\">Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol<\/a>&nbsp;yn gweithio mewn partneriaeth ag&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.adultlearning.wales\/cym\">Addysg Oedolion Cymru<\/a>, er mwyn datblygu darpariaeth arloesol fyddai\u2019n cyflwyno\u2019r Gymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill (WSOL). Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/dysgucymraeg.cymru\/croeso-i-bawb\/\">Croeso i Bawb<\/a>, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2019, yn gwrs pwrpasol sy\u2019n rhoi cyfle i fewnfudwyr a ffoaduriaid ddechrau dysgu Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ategwyd y syniad y gall y Gymraeg hybu integreiddio ac ymdeimlad o berthyn unwaith eto eleni mewn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2023-07\/adolygiad-o-bolisi-saesneg-i-siaradwyr-ieithoedd-eraill-esol-yng-nghymru.pdf\">adolygiad<\/a>&nbsp;o\u2019r ddarpariaeth ESOL yng Nghymru a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru. Galwodd yr adolygiad hefyd am gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llawn yn y rhwydweithiau addysgol sy\u2019n gweithio i gefnogi mewnfudwyr yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Goblygiadau<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig peidio gorliwio maint y newidiadau a welwyd hyd yn hyn. Yn gyffredinol, y Saesneg sy\u2019n parhau\u2019n gyfrwng integreiddio ar gyfer y mwyafrif o fewnfudwyr a ffoaduriaid sy&#8217;n ymgartrefu yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Serch hynny, mae\u2019r pwyslais cynyddol a roddwyd ar y Gymraeg fel rhan o\u2019r broses integreiddio yn atgyfnerthu\u2019r argraff bod dull unigryw Gymreig o groesawu mewnfudwyr a ffoaduriaid yn cael ei ddatblygu. Mae\u2019r ddarpariaeth WSOL newydd yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/wales.britishcouncil.org\/en\/blog\/migrants-multilingualism-and-welsh-language\">herio\u2019r<\/a>ddelwedd uniaith draddodiadol o fywyd ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn hybu persbectif amlieithog ac amlddiwylliannol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"WSOL - Welsh for Speakers of Other Languages\" width=\"1080\" height=\"608\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/qgjVx8bTMfg?start=2&#038;feature=oembed\"  allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Gwybodaeth ar ddysgu Cymraeg i bobl sy&#8217;n ymgartrefu yng Nghymru.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10993-019-09517-0\">gwaith ymchwil<\/a>&nbsp;diweddar hefyd yn awgrymu bod dysgu Cymraeg yn medru gwella cyfleoedd cyflogaeth mewnfudwyr a ffoaduriaid. Gall hefyd hwyluso\u2019r broses o ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol newydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond os oes bwriad i drin y Gymraeg fel elfen mwyfwy canolog o\u2019r broses integreiddio, bydd angen gwneud mwy na dim ond cynnig cyfleodd ffurfiol i ddysgu\u2019r iaith, er mor bwysig yw hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylai llunwyr polisi ac ymgyrchwyr ystyried ffyrdd eraill o wneud dysgu Cymraeg yn fwy hygyrch. Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr ryngweithio&#8217;n gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn allweddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tra\u2019i bod yn ymddangos y bydd llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i bwysleisio\u2019r Saesneg fel yr unig gyfrwng ar gyfer integreiddio llwyddiannus, mae&#8217;r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod Cymru yn datblygu gweledigaeth wahanol, fwy amlieithog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/theconversation.com\/maer-gymraeg-yn-cael-ei-defnyddio-i-annog-ymfudwyr-i-deimlon-gartrefol-217503\">The Conversation<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cysylltiadau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr. Huw Lewis&nbsp;<a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-admin\/hhl@aber.ac.uk\">hhl@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd \u00e2\u2019r grym i benderfynu pwy all gael mynediad i\u2019r wlad, a hi sy\u2019n gyfrifol am lunio polis\u00efau mudo a lloches. Ond mae gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":8788,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[38,1],"tags":[],"class_list":["post-10234","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-cy","category-uncategorised"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10234","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10234"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10234\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11464,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10234\/revisions\/11464"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8788"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10234"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10234"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10234"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}