{"id":10099,"date":"2023-10-18T13:00:11","date_gmt":"2023-10-18T12:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?p=10099"},"modified":"2024-09-18T13:24:39","modified_gmt":"2024-09-18T12:24:39","slug":"ymchwil-strategaeth-annibyniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/ymchwil-strategaeth-annibyniaeth\/","title":{"rendered":"\u2018Galw am annibyniaeth\u2019: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar \u00f4l 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y newid gwleidyddol sylweddol wrth i&#8217;r DU ymadael \u00e2&#8217;r UE.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu ar draws rhannau o Ewrop yn y degawd diwethaf. Mae&#8217;r ymchwil newydd hwn yn cynorthwyo i ddeall beth sy&#8217;n arwain pleidiau o blaid annibyniaeth i fod yn fwy amwys neu bendant ar y mater.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trafodir y canfyddiadau mewn erthygl newydd gan Elin Royles gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Regional and Federal Studies yn seiliedig ar ddadansoddiad o faniffestos Plaid Cymru 2003-2021 ac ymchwil pellach gan gynnwys cyfweliadau ag unigolion blaenllaw ddoe a heddiw ym Mhlaid Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhai o\u2019r ffactorau a ddylanwadodd ar agwedd Plaid Cymru at fater annibyniaeth oedd perthnasau grym mewnol, deinameg cystadleuaeth bleidiol a gwleidyddiaeth aml-lefel, yn ogystal \u00e2 datblygiadau ar draws y wladwriaeth, yn enwedig safbwynt y blaid lywodraethol ar lefel y wladwriaeth am y galw am fwy o ymreolaeth i&#8217;r lefel is-wladwriaethol ac effaith pleidiau o blaid annibynaieth mewn mannau eraill yn y wladwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r dadansoddiad hefyd yn cadarnhau effaith gref ideoleg ar gyfyngu ar alwadau Plaid Cymru am annibyniaeth rhwng 2003 a 2015. Roedd Llywydd cyntaf y blaid (1926-1939), Saunders Lewis, yn gwrthod hunan-lywodraeth ac annibyniaeth fel amcanion y blaid a dylanwadodd yn ddwfn ar amharodrwydd y blaid ar annibyniaeth. Roedd safbwynt mwy graddol a chymedrol y blaid hefyd yn benderfyniad strategol i&nbsp;&nbsp;flaenoriaethu datblygu hunanlywodraeth i Gymru yn y 1990au yn dilyn sefydlu\u2019r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 ac ymrwymiad y blaid i\u2019r nod cyfansoddiadol terfynol o \u2018annibyniaeth yn Ewrop\u2019 yn 2003. Dylanwadwyd ar hyn gan drefniadau cyfansoddiadol y cyfnod, natur y gystadleuaeth etholiadol wynebai mewn etholiadau datganoledig ac i San Steffan, a chyda safbwynt cyfansoddiadol Llafur Cymru a oedd yn llwyddiannus yn etholiadol cyd-fynd \u00e2 barn gyhoeddus Cymru lle taw&#8217;r tuedd oedd cynydd yn y gefnogaeth i fwy o bwerau i&#8217;r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nawr Senedd Cymru (Welsh Parliament).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn gwrthgyferbyniad, roedd symudiad y Blaid i fod yn fwy pendant ar annibyniaeth&nbsp;&nbsp;2016 wedi\u2019i ddylanwadu\u2019n gryf gan ganlyniad refferendwm Brexit a&#8217;r newid yn null Llywodraeth y DU o ymwneud gyda llywodraethau datganoledig yn y DU, y cyfeirir ato\u2019n aml fel \u2018undebaeth gyhyrol\u2019. Arweiniodd yr amgylchiadau hyn at newid yn y farn gyhoeddus ar ddewis cyfansoddiadol gydag arwyddion o fwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ystod 2019-2021. Mae arweinyddiaeth Adam Price (2018-2023) hefyd yn cael ei hystyried yn ganolog yn y cyd-destun hwn o yrru&#8217;r blaid i fod yn bendant a gwneud annibyniaeth yn brif amcan cyfansoddiadol yn etholiad Senedd 2021.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir defnyddio&#8217;r fframwaith a ddatblygwyd yn yr erthygl yn&nbsp;<em>Regional and Federal Studies&nbsp;<\/em>hefyd i wella dealltwriaeth o strategaethau pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yng Nghatalwnia, Sardinia a Galicia.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir darllen yr erthygl lawn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/13597566.2023.2243229\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cysylltiadau<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Elin Royles<br>Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,&nbsp;<br>Prifysgol Aberystwyth&nbsp;&nbsp;<br><a href=\"mailto:ear@aber.ac.uk\">ear@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10096,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[19,38,1],"tags":[],"class_list":["post-10099","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-newyddion-cy","category-uncategorised"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10099","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10099"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10099\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11470,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10099\/revisions\/11470"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10096"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10099"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10099"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10099"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}