{"id":9897,"date":"2023-03-28T06:57:08","date_gmt":"2023-03-28T05:57:08","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=9556"},"modified":"2024-08-20T15:34:16","modified_gmt":"2024-08-20T14:34:16","slug":"alban-chatalwnia-annibyniaeth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gwleidyddiaeth-annibyniaeth\/darlunio-dyfodol-cymru\/alban-chatalwnia-annibyniaeth\/","title":{"rendered":"Sut mae eraill yn gweld annibyniaeth\ufffc"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sut mae pobl yr Alban a Chatalonia gyfrannodd i&#8217;n prosiect yn meddwl am annibyniaeth?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn yr Alban, mae yna ymdeimlad cryf o hunaniaeth ymhlith y cyfranogwyr hefyd. Roedd rhai yn teimlo eu bod yn Albanwyr, tra nad oedd eraill yn teimlo eu bod yn perthyn i&#8217;r Deyrnas Unedig gyfan. Ymddengys bod yr ymdeimlad o fod yn wleidyddol wahanol i weddill y Deyrnas Unedig yn gryfach yma nag yng Nghymru: amlygwyd gwahaniaethau polisi rhwng yr Alban a gweddill y DU yn aml, a theimlai llawer o bobl yn rhwystredig bod potensial yr Alban yn cael ei gyfyngu mewn meysydd polisi hollbwysig, er enghraifft, ar ynni gwyrdd ac ail-ymuno \u00e2&#8217;r Undeb Ewropeaidd. Ond mynegodd eraill eu dymuniad i aros yn rhan o\u2019r Deyrnas Unedig gan bwysleisio\u2019r syniad o fod yn \u201cwell gyda\u2019n gilydd\u201d. Fodd bynnag, mae&#8217;r un ymdeimlad o ansicrwydd ynghylch y dyfodol. Roedd llawer o gyfranogwyr hefyd yn ansicr ynghylch sut y byddent yn pleidleisio mewn ail refferendwm ar annibyniaeth; teimlai rhai nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad, nid oedd gan eraill ddiddordeb yn y mater.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghatalonia, fel yng Nghymru, mae iaith a diwylliant yn bwysig i gyfranogwyr ac yn effeithio ar eu teimladau yngl\u0177n ag annibyniaeth. Mae llawer yn poeni bod yr iaith Gatalaneg yn dod yn un lleiafrifol ac eisiau iddi gael ei hamddiffyn a&#8217;i hyrwyddo. Maent yn pryderu nad yw hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol wedi\u2019u sicrhau o dan y trefniadau sefydliadol presennol ac mae rhai yn gweld annibyniaeth fel ffordd o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater hwn.&nbsp; Yng Nghatalonia, bu mwy o drafod ar y broses o sicrhau annibyniaeth gan fod y digwyddiadau o amgylch refferendwm 2017 wedi cael effaith ar farn pobl ar annibyniaeth a sut i gyflawni annibyniaeth. Roedd llawer o\u2019r delweddau\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r ymgais i gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2017, a\u2019r ffordd y ceisiodd heddlu Sbaen atal pobol rhag pleidleisio. Roedd rhai wedi eu dychryn a&#8217;u cythruddo gan yr ymateb hwn ac fe\u2019u hanogwyd i gefnogi annibyniaeth. Roedd eraill yn teimlo&#8217;n rhwystredig iawn, yn enwedig gan y ffaith fod gwledydd tramor \u2013 a\u2019r Undeb Ewropeaidd yn arbennig \u2013 wedi gwrthod rhoi pwysau ar wladwriaeth Sbaen i ganiat\u00e1u i\u2019r refferendwm ddigwydd. Wrth fyfyrio ar y blynyddoedd ers yr ymgais i gynnal refferendwm, soniodd llawer o gyfranogwyr am eu siom gyda chyflwr presennol y ddadl, o ran strategaeth y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth a\u2019r diffyg cynnydd ar y trafodaethau ar gynnal refferendwm cyfreithiol newydd ar annibyniaeth. Mae&#8217;r profiad hwn wedi cael effaith wahanol ar wahanol bobl: mae rhai yn parhau i deimlo&#8217;n gryf o blaid annibyniaeth, mae eraill wedi penderfynu bellach nad oes ots ganddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunio-dyfodol-cymru\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/03\/Logo_DC_FW-287x300.png\" alt=\"Logo Darlunio Dyfodol Cymru\" class=\"wp-image-9507\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-eraill-yn-gweld-annibyniaeth-CWPS.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Sut-mae-eraill-yn-gweld-annibyniaeth-CWPS..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-416ae0a4-ee4f-40bd-9e4f-ec0a310cd817\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-eraill-yn-gweld-annibyniaeth-CWPS.pdf\">Sut-mae-eraill-yn-gweld-annibyniaeth-CWPS<\/a><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-eraill-yn-gweld-annibyniaeth-CWPS.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-416ae0a4-ee4f-40bd-9e4f-ec0a310cd817\">Download<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut mae pobl yr Alban a Chatalonia gyfrannodd i&#8217;n prosiect yn meddwl am annibyniaeth? Yn yr Alban, mae yna ymdeimlad cryf o hunaniaeth ymhlith y cyfranogwyr hefyd. Roedd rhai yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":9877,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-9897","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9897","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9897"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9897\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10591,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9897\/revisions\/10591"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9877"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9897"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}