{"id":9895,"date":"2023-03-28T06:53:30","date_gmt":"2023-03-28T05:53:30","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=9549"},"modified":"2024-08-20T15:34:17","modified_gmt":"2024-08-20T14:34:17","slug":"cymru-rhedeg","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gwleidyddiaeth-annibyniaeth\/darlunio-dyfodol-cymru\/cymru-rhedeg\/","title":{"rendered":"Sut Mae Cymru yn Cael ei Rhedeg &#8211; Nawr ac yn y Dyfodol\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai&#8217;r wlad gael ei rhedeg. Mae&#8217;r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw\u2019n cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd at 1999, yr Ysgrifennydd Gwladol, a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth y DU ac yn atebol i Senedd San Steffan, oedd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o bolisi domestig Cymru \u2013 ac felly hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ym 1999, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, llywodraeth ranbarthol a etholwyd yn uniongyrchol gan bobl Cymru. Roedd hyn yn rhan o raglen ddatganoli ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, a welodd hefyd greu senedd yn yr Alban a chynulliad yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddwyd amrywiaeth o gyfrifoldebau polisi i\u2019r cyrff hyn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb newid sofraniaeth Senedd y Deyrnas Unedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trefniadau cyfansoddiadol Cymru wedi esblygu\u2019n eithaf sylweddol ers 1999. Mae sawl Comisiwn wedi\u2019i sefydlu i archwilio\u2019r trefniadau ar gyfer llywodraethu Cymru: mae\u2019r rhain wedi ystyried a ddylid rhoi pwerau llunio penderfyniadau a phwerau deddfwriaethol i Gymru mewn mwy o feysydd polisi ac ystyried sut i wella\u2019r berthynas rhwng y sefydliadau datganoledig a\u2019r Deyrnas Unedig. O ganlyniad, dros y blynyddoedd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill pwerau newydd i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, i godi trethi ac i newid y dull o ethol. Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i Senedd Cymru yn 2020.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Erbyn heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnig polis\u00efau mewn meysydd sy&#8217;n cynnwys iechyd, addysg, iaith a diwylliant, yr amgylchedd a\u2019r economi a gall gasglu rhai trethi. Mae Senedd Cymru yn deddfu ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae penderfyniadau eraill sy&#8217;n effeithio ar bobl sy&#8217;n byw yng Nghymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn San Steffan. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys amddiffyn, pensiynau, budd-daliadau, cyfiawnder a phlismona, darlledu a&#8217;r rhan fwyaf o drethi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond nid yw&#8217;r newidiadau hyn wedi rhoi diwedd ar drafodaethau yngl\u0177n \u00e2 sut y dylid rhedeg Cymru. Mae digwyddiadau diweddar \u2013 fel Brexit, a phandemig Covid-19 \u2013 wedi rhoi pwysau cynyddol ar weithrediad setliad datganoli Cymru, ac wedi amlygu problemau. Daeth y datblygiadau hyn yn gefndir i rai newidiadau ym marn y cyhoedd wrth i wahanol arolygon ddangos mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2021, cr\u00ebwyd <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/y-comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru\" target=\"_blank\">Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru<\/a> i edrych ar wahanol ffyrdd o redeg Cymru. Mae&#8217;r Comisiwn yn y broses o gasglu barn pobl Cymru ar sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol, a bydd yn gwneud ei argymhellion terfynol erbyn diwedd 2023. Yr <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-interim\" target=\"_blank\">opsiynau allweddol<\/a> sy&#8217;n cael eu hystyried gan y Comisiwn yw:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dewis 1:&nbsp;Atgyfnerthu datganoli: <\/strong>Byddai hyn yn rhoi mwy o amddiffyniad i bwerau\u2019r Senedd, a gallai hefyd olygu trosglwyddo cyfrifoldebau polisi newydd i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dewis 2:<\/strong> <strong>Strwythur ffederal<\/strong>: Byddai hyn yn golygu ei gwneud yn gliriach pwy sy\u2019n gyfrifol am ba bolis\u00efau, naill ai senedd y Deyrnas Unedig neu sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Byddai gallu&#8217;r sefydliadau datganoledig gyfrannu at benderfyniadau polisi sy&#8217;n effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan hefyd yn fwy eglur. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dewis 3: Annibyniaeth<\/strong>: O dan yr opsiwn hwn, byddai Cymru yn dod yn wladwriaeth sofran a gallai wneud cais am fod yn aelod llawn o\u2019r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunio-dyfodol-cymru\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/03\/Logo_DC_FW-287x300.png\" alt=\"Logo Darlunio Dyfodol Cymru\" class=\"wp-image-9507\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-Mae-Cymru-yn-Cael-ei-Rhedeg-Nawr-ac-yn-y-Dyfodol-CWPS.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Sut-Mae-Cymru-yn-Cael-ei-Rhedeg-Nawr-ac-yn-y-Dyfodol-CWPS..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-7aa2bb73-90fa-4edb-a401-c2c1c038e072\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-Mae-Cymru-yn-Cael-ei-Rhedeg-Nawr-ac-yn-y-Dyfodol-CWPS.pdf\">Sut-Mae-Cymru-yn-Cael-ei-Rhedeg-Nawr-ac-yn-y-Dyfodol-CWPS<\/a><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-Mae-Cymru-yn-Cael-ei-Rhedeg-Nawr-ac-yn-y-Dyfodol-CWPS.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-7aa2bb73-90fa-4edb-a401-c2c1c038e072\">Download<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai&#8217;r wlad gael ei rhedeg. Mae&#8217;r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw\u2019n cynnig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":9877,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-9895","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9895","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9895"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9895\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10589,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9895\/revisions\/10589"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9877"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9895"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}