{"id":9893,"date":"2024-02-08T10:56:01","date_gmt":"2024-02-08T10:56:01","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=9545"},"modified":"2024-08-20T15:39:31","modified_gmt":"2024-08-20T14:39:31","slug":"ystyried-annibyniaeth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/ystyried-annibyniaeth\/","title":{"rendered":"Ystyried annibyniaeth\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyd-destun gwleidyddol ehangach yr arddangosfa hon yw bod y dadleuon ynghylch annibyniaeth yn yr Alban, Catalonia ac yma yng Nghymru yn adlewyrchu&#8217;r dadleuon mewn gwahanol diriogaethau, cenhedloedd a rhanbarthau yn Ewrop a thu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw dadleuon o&#8217;r fath yn newydd. Ers 1945, mae galwadau am annibyniaeth wedi arwain at greu llawer o wladwriaethau newydd ledled y byd, ac mae galwadau o&#8217;r fath wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Adlewyrchir hyn yn y nifer cynyddol o refferenda a gynhaliwyd ar annibyniaeth yn y degawdau diwethaf. Yn y 2010au, er enghraifft, cynhaliwyd 15 o refferenda annibyniaeth mewn lleoedd mor amrywiol \u00e2 Puerto Rico a Veneto, De Brasil a Bougainville, Caledonia Newydd ac Irac. Roedd rhai refferenda yn swyddogol ac yn gyfreithiol rwymol, a rhai eraill ddim. Mae\u2019r trafodaethau hyn am annibyniaeth yn aml yn ddadleuol ac yn rhannu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae refferenda ar annibyniaeth hefyd wedi cael eu cynnal yn yr Alban a Chatalonia yn y degawd diwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y brif blaid wleidyddol sy&#8217;n ymgyrchu dros annibyniaeth yn yr Alban yw Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Mae&#8217;r blaid yn gweld datganoli fel cam ar y llwybr tuag at eu nod yn y pen draw o Alban annibynnol. Daeth yr SNP yn blaid lywodraethol yn Senedd yr Alban yn 2007, ac ar \u00f4l etholiad Senedd yr Alban yn 2011 sicrhaodd gytundeb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i\u2019r Alban. Cynhaliwyd y refferendwm hwn yn 2014, gyda 55% yn pleidleisio yn erbyn a 45% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yno. Ond ni ddaeth y canlyniad hwn \u00e2\u2019r ddadl yngl\u0177n ag annibyniaeth yn yr Alban i ben. Yn refferendwm Brexit a gynhaliwyd yn 2016, roedd mwyafrif y pleidleiswyr yn yr Alban eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd y ffaith bod y mwyafrif yn yr Alban wedi pleidleisio i aros yn yr UE yn refferendwm Brexit yr SNP i ddadlau bod gadael yr UE yn erbyn ewyllys pobl yr Alban a bod angen ail refferendwm ar annibyniaeth. Hyd yn hyn, mae\u2019r galwadau am ail refferendwm wedi\u2019u gwrthod gan lywodraeth San Steffan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth y don bresennol o alwadau am annibyniaeth yng Nghatalonia i\u2019r amlwg yng nghanol y 2000au, o ganlyniad i ymdrechion aflwyddiannus i roi pwerau newydd sylweddol i senedd ranbarthol Catalonia. Ar \u00f4l cyfres o wrthdystiadau enfawr o blaid annibyniaeth, ceisiodd llywodraeth Catalonia gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2017. Fodd bynnag, datganwyd hyn yn anghyfreithlon gan wladwriaeth Sbaen. Fe wnaeth llywodraeth Sbaen hefyd atal gweithrediad y senedd ranbarthol dros dro, ac erlyn yr arweinwyr oedd o blaid annibyniaeth oedd yn ymwneud \u00e2 threfnu\u2019r refferendwm. Heddiw, mae adain chwith weriniaethol Catalonia sydd o blaid annibyniaeth yn rhedeg y llywodraeth ranbarthol ac yn ceisio dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen ar gynnal refferendwm cyfreithiol newydd ar annibyniaeth Catalonia. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru, y brif blaid wleidyddol sy\u2019n galw am annibyniaeth i Gymru yw Plaid Cymru ac yn y blynyddoedd diwethaf mae&#8217;r blaid wedi galw am gynnal refferendwm ar annibyniaeth. Mae galwadau am annibyniaeth hefyd wedi\u2019u hybu gan fudiad Yes Cymru ers canol y 2010au, sy\u2019n dod \u00e2 phobl ynghyd o wahanol sefydliadau a phleidiau gwleidyddol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunio-dyfodol-cymru\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/03\/Logo_DC_FW.png\" alt=\"Logo Darlunio Dyfodol Cymru\" class=\"wp-image-9507\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ystyried-annibyniaeth-CWPS.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Ystyried-annibyniaeth-CWPS..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-08ddc59b-03de-46c6-a4e1-25543072bac4\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ystyried-annibyniaeth-CWPS.pdf\">Ystyried-annibyniaeth-CWPS<\/a><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ystyried-annibyniaeth-CWPS.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-08ddc59b-03de-46c6-a4e1-25543072bac4\">Download<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyd-destun gwleidyddol ehangach yr arddangosfa hon yw bod y dadleuon ynghylch annibyniaeth yn yr Alban, Catalonia ac yma yng Nghymru yn adlewyrchu&#8217;r dadleuon mewn gwahanol diriogaethau, cenhedloedd a rhanbarthau yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-9893","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9893","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9893"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9893\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10587,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9893\/revisions\/10587"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9893"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}