{"id":9891,"date":"2023-03-28T06:44:11","date_gmt":"2023-03-28T05:44:11","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=9539"},"modified":"2024-08-20T15:34:17","modified_gmt":"2024-08-20T14:34:17","slug":"ein-prosiect","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gwleidyddiaeth-annibyniaeth\/darlunio-dyfodol-cymru\/ein-prosiect\/","title":{"rendered":"Ein Prosiect\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae\u2019r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo yngl\u0177n ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia, a sut y caiff hyn ei ffurfio gan brofiadau eu bywyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw\u2019n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith academaidd blaenorol sydd wedi astudio agweddau pobl tuag at annibyniaeth wedi canolbwyntio ar geisio deall pam fod pobl yn penderfynu cefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Ychydig o ymchwil sy&#8217;n bodoli yn ceisio egluro barn y cyhoedd ar fater annibyniaeth. Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r gwaith sydd wedi ei gynhyrchu yn defnyddio data arolygon, lle gofynnwyd i bobl sut y byddent yn pleidleisio pe cynhelid refferendwm ar annibyniaeth, neu lle gofynnwyd am ddewisiadau unigol ar \u00f4l cynnig rhestr o opsiynau cyfansoddiadol gwahanol, er enghraifft a fyddai&#8217;n well ganddynt ranbarth gyda phwerau cyfyngedig dros feysydd polisi penodol, rhanbarth gyda chryn dipyn o bwerau (e.e. dros blismona neu fewnfudo), neu wladwriaeth annibynnol. Mae&#8217;r astudiaethau hyn wedi canolbwyntio ar y ffordd mae nodweddion pobl (fel oedran, rhyw a dosbarth cymdeithasol) neu eu hagweddau (fel pa blaid wleidyddol maent yn eu cefnogi, neu sut maent yn diffinio eu hunaniaeth) yn llywio eu barn am annibyniaeth. Mae gwaith o&#8217;r fath yn arwain at gasgliadau ynghylch pa fath o nodweddion sy&#8217;n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth mewn gwahanol achosion. Fodd bynnag, &nbsp;mae anghytundeb ynghylch y ffactorau sy&#8217;n ysgogi&#8217;r gefnogaeth boblogaidd i annibyniaeth. Er enghraifft, pa mor bwysig yw hunaniaeth genedlaethol, cwynion (<em>grievances<\/em>), rhagolygon economaidd neu les neu siarad iaith ranbarthol? Nid yw data&#8217;r arolygon sy&#8217;n sail i&#8217;r dadansoddiadau hynny yn esbonio chwaith sut mae bywydau bob dydd dinasyddion yn effeithio ar eu profiad ac ar y ffordd y maent yn gwneud synnwyr o annibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r prosiect hwn yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r mater mewn ffordd wahanol. Mae&#8217;n ceisio mynd y tu hwnt i&#8217;r ystyriaeth yngl\u0177n ag annibyniaeth yn nhermau a fyddai pobl yn ei gefnogi neu&#8217;n ei wrthwynebu mewn refferendwm, drwy ymchwilio i feddyliau a theimladau pobl am y pwnc. Beth sy&#8217;n bwysig i bobl pan fyddant yn meddwl am annibyniaeth? Pa agweddau o&#8217;u bywydau bob dydd a&#8217;u profiadau bywyd sy&#8217;n dylanwadu ar eu barn yngl\u0177n \u00e2&#8217;r ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu yn y dyfodol?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn ceisio datblygu trafodaethau amgen ar y pwnc a chael gwell dealltwriaeth o feddyliau pobl a&#8217;r hyn sy&#8217;n dylanwadau ar eu ffordd o feddwl am y mater hwn, mae&#8217;r prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth fel sail i gychwyn sgyrsiau am annibyniaeth. Rydym wedi cydweithio \u00e2 chlybiau ffotograffiaeth a cholegau sy\u2019n cynnig ffotograffiaeth fel rhan o&#8217;u cyrsiau, pobl sy&#8217;n diddori mewn ffotograffiaeth, yn yr Alban, Catalonia a Chymru. O ran y ffordd roedd y grwpiau\u2019n cymryd rhan, yn gyntaf gofynnwyd i&#8217;r cyfranogwyr dynnu lluniau yn dangos y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. &nbsp;Yna cynhaliwyd cyfarfod o&#8217;r gr\u0175p lle&#8217;r oedd y cyfranogwyr yn rhannu eu cyfres o 4 llun ac yn egluro eu rhesymau dros dynnu&#8217;r lluniau hynny, yr hyn roeddent eisiau ei fynegi a&#8217;i ddal.&nbsp; Yn olaf, gwahoddwyd y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliadau unigol manwl er mwyn manylu ar y syniadau a&#8217;r profiadau bywyd oedd yn dylanwadu ar y delweddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tynnwyd y lluniau yn yr arddangosfa hon gan Glwb Camera Aberystwyth. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu parodrwydd i gydweithio ar y prosiect ac am roi eu caniat\u00e2d i ni gael dangos eu delweddau yn yr arddangosfa hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r prosiect yn un amhleidiol. Mae&#8217;n croesawu cyfraniadau gan gyfranogwyr \u00e2 safbwyntiau gwahanol ac nid yw&#8217;n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Mae&#8217;n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\" target=\"_blank\">Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC\/WISERD<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\u2019r ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy&#8217;n arwain y prosiect: <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/staff-profiles\/listing\/profile\/awe\/\" target=\"_blank\">Anwen Elias<\/a>, <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/staff-profiles\/listing\/profile\/ear\/\" target=\"_blank\">Elin Royles<\/a>, <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/interpol\/staff-profiles\/listing\/profile\/nuf\/\" target=\"_blank\">N\u00faria Franco-Guill\u00e9n<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/dges\/staff-profiles\/listing\/profile\/raj\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rhys Jones<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunio-dyfodol-cymru\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/03\/Logo_DC_FW-287x300.png\" alt=\"Logo Darlunio Dyfodol Cymru \" class=\"wp-image-9507\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ein-Prosiect-CWPS.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Ein-Prosiect-CWPS..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-a236ce75-312e-4643-b024-9e263131a1b7\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ein-Prosiect-CWPS.pdf\">Ein-Prosiect-CWPS<\/a><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Ein-Prosiect-CWPS.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-a236ce75-312e-4643-b024-9e263131a1b7\">Download<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae\u2019r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo yngl\u0177n ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":9877,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-9891","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9891","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9891"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9891\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10585,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9891\/revisions\/10585"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9877"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9891"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}