{"id":9884,"date":"2023-03-27T16:46:40","date_gmt":"2023-03-27T15:46:40","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=9523"},"modified":"2024-08-20T15:34:17","modified_gmt":"2024-08-20T14:34:17","slug":"cymru-wahanol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/gwleidyddiaeth-annibyniaeth\/darlunio-dyfodol-cymru\/cymru-wahanol\/","title":{"rendered":"Sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth: Them\u00e2u sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg\ufffc\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai them\u00e2u allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae Cymru&#8217;n wahanol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar draws y tri achos, roedd cyfranogwyr yn aml yn s\u00f4n am yr ymdeimlad o arwahanrwydd diwylliannol (hunaniaethau, iaith, hanes) oddi wrth weddill y wladwriaeth (y Deyrnas Unedig neu Sbaen).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru, roedd yr hunaniaeth hon yn cael ei mynegi trwy gyfeiriadau at symbolau diwylliannol, hanes Cymru a\u2019r dirwedd, ac roedd ymdeimlad clir o berthyn i\u2019r wlad a chariad tuag ati. Ategwyd y teimladau hyn gan ystod o wahanol brofiadau bywyd: roedd rhai wedi\u2019u geni yng Nghymru ac wedi byw yma am y rhan fwyaf o\u2019u hoes, eraill wedi\u2019u geni y tu allan i Gymru neu wedi byw dramor. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr iaith Gymraeg, a oedd yn cael ei gweld fel rhywbeth i\u2019w ddathlu a\u2019i warchod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y gwerthfawrogiad hwn o hunaniaeth Gymreig yn aml yn gwneud cyfranogwyr yn ymwybodol o wahaniaethau rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig (a Lloegr yn arbennig). I rai, roedd teimlad o ddicter bod Cymru\u2019n cael ei phortreadu\u2019n aml fel gwlad sy&#8217;n ddibynnol ar Loegr, neu\u2019n israddol iddi. Pwysleisiodd eraill fod hanes Cymru fel rhan o\u2019r Deyrnas Unedig yn un cadarnhaol, ac yn rhywbeth y dylid ei gynnal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ydy hunaniaeth benodol yn effeithio ar sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth?&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil hyd yma yn dangos nad yw\u2019r ffaith bod yr ymwybyddiaeth o wahaniaeth yn golygu bod gan bobl yr un farn yngl\u0177n ag annibyniaeth i Gymru. I lawer, nid yw\u2019r ffaith eu bod yn teimlo bod Cymru&#8217;n wahanol iawn yn bwysig wrth feddwl neu deimlo am y pwnc.&nbsp; I rai, mae bod yn Gymro yn golygu eu bod yn dymuno annibyniaeth; daeth ystyriaethau iaith i&#8217;r amlwg yma hefyd: a allai Cymru annibynnol arwain at gyfleoedd newydd i hybu defnyddio&#8217;r iaith? I eraill, mae Cymreictod yn rhan o hunaniaeth sydd hefyd yn cynnwys teimlo\u2019n Brydeinig ac mae\u2019n well ganddyn nhw aros yn rhan o\u2019r Deyrnas Unedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ein Dyfodol&nbsp; <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil ni yn y tri achos yn dangos bod pobl yn meddwl am annibyniaeth drwy eu profiad nhw o wleidyddiaeth a&#8217;r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd. Ond mae hyn yn arwain pobl i feddwl yn wahanol iawn am annibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai yn credu y bydd annibyniaeth yn trawsnewid cymdeithas ac yn creu dyfodol gwahanol a gwell. Yng Nghymru, mae rhai pobl yn credu mai annibyniaeth yw&#8217;r unig ffordd o wneud penderfyniadau sy&#8217;n ateb anghenion y wlad, lle nad yw San Steffan yn ymyrryd yn sut mae Cymru yn cael ei rhedeg.&nbsp; Mae\u2019r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu rhwystredigaeth rhai cyfranogwyr gyda\u2019r trefniadau datganoli presennol, ac ymdrechion llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi penderfyniadau polisi a wneir yng Nghymru. Mae yna ymdeimlad hefyd o ddadrithiad gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion nad ydynt yn deall Cymru, ac yn enwedig gyda\u2019r ffordd mae Brexit wedi\u2019i reoli \u2013 ac effeithio&#8217;n negyddol ar Gymru. Soniodd rhai am botensial economaidd Cymru annibynnol \u2013 a\u2019r cyfle a ddeuai yn ei sgil i ymagwedd wahanol a mwy rhagweithiol at gyflawni twf economaidd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I eraill, mae annibyniaeth yn risg enfawr. Yng Nghymru, roedd pobl yn pryderu a fyddai Cymru&#8217;n rhy fach neu&#8217;n rhy dlawd i sefyll ar ei thraed ei hun.&nbsp; Roedd un pryder penodol yn ymwneud \u00e2 sut y byddai Cymru\u2019n ymdopi heb y trosglwyddiadau ariannol sy&#8217;n dod ar hyn o bryd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig; a allai Cymru gynhyrchu digon o gyfoeth i gynnal ei systemau lles ac addysg ei hun? Roedd rhai hefyd yn amau a fyddai gwleidyddiaeth wahanol yn bosib mewn Cymru annibynnol, ac a allai Cymru ail-ymuno \u00e2\u2019r Undeb Ewropeaidd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Teimlai llawer hefyd ei bod yn anodd cael dadl onest am annibyniaeth, yn enwedig gan ei fod yn fater cymhleth sy&#8217;n agored i gael ei gyfleu\u2019n anghywir gan y cyfryngau. Un broblem yw&#8217;r diffyg gwybodaeth am annibyniaeth, gan gynnwys manteision ac anfanteision posib. Roedd rhai hefyd yn pryderu bod hwn yn bwnc anodd ei drafod mewn ffordd ddiduedd: pwy y gellir ymddiried ynddo i roi gwybodaeth ddiduedd am yr hyn y byddai&#8217;n ei olygu i Gymru yn y dyfodol?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pen\/Calon<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i\u2019r bobl a fu\u2019n rhan o\u2019r tri achos bwyso a mesur eu teimladau am annibyniaeth, soniodd rhai am eu hamheuon neu eu hofnau am beth fyddai hyn yn ei olygu i ddyfodol eu gwlad. Soniodd eraill am eu hymdeimlad cryf o hunaniaeth a sut roedd hyn yn eu gwneud yn fwy cefnogol o annibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru, roedd tensiwn yn aml rhwng y ddwy farn yma, a\u2019r pen a\u2019r galon yn gwthio yn erbyn ei gilydd.&nbsp; Cafodd y tensiwn hwn ei gyfleu yn glir iawn gan un cyfranogwr a nododd, wrth drafod y ffotograffau yr oedd wedi\u2019u tynnu: \u201cRoedd yn fwy o daith drwy\u2019r emosiynau a\u2026dynnwyd allan ohonof gan y cwestiwn, rwy\u2019n meddwl. Rwy&#8217;n meddwl ei fod fwy na thebyg yn portreadu fy safbwynt ar bethau yn fy nghalon, nid yw o reidrwydd yn golygu fy safbwynt ar bethau yn fy mhen\u2026\u201d. Mae\u2019r tensiwn hwn yn creu llawer o ansicrwydd mewn trafodaethau am annibyniaeth, ei oblygiadau gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol a\u2019r anhawster o allu rhagweld ei \u00f4l-effeithiau yn yr hirdymor.&nbsp;Mae&#8217;n aml yn gwneud i bobl feddwl nad annibyniaeth yw&#8217;r ateb.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunio-dyfodol-cymru\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/03\/Logo_DC_FW.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9507\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-pobl-yn-meddwl-ac-yn-teimlo-am-annibyniaeth-Thema\u0302u-syn-dod-ir-amlwg-CWPS.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Sut-mae-pobl-yn-meddwl-ac-yn-teimlo-am-annibyniaeth-Thema\u0302u-syn-dod-ir-amlwg-CWPS..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-386af4e6-982e-47e4-86e8-9f1ac0d88133\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-pobl-yn-meddwl-ac-yn-teimlo-am-annibyniaeth-Thema\u0302u-syn-dod-ir-amlwg-CWPS.pdf\">Sut-mae-pobl-yn-meddwl-ac-yn-teimlo-am-annibyniaeth-Thema\u0302u-syn-dod-ir-amlwg-CWPS<\/a><a href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2023\/04\/Sut-mae-pobl-yn-meddwl-ac-yn-teimlo-am-annibyniaeth-Thema\u0302u-syn-dod-ir-amlwg-CWPS.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-386af4e6-982e-47e4-86e8-9f1ac0d88133\">Download<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai them\u00e2u allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth: Mae Cymru&#8217;n wahanol Ar draws y tri [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":9877,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-9884","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9884","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9884"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9884\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10579,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9884\/revisions\/10579"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9877"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9884"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}