{"id":7416,"date":"2019-06-21T09:53:21","date_gmt":"2019-06-21T08:53:21","guid":{"rendered":"http:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=7416\/"},"modified":"2024-08-20T15:46:44","modified_gmt":"2024-08-20T14:46:44","slug":"ombwdsmyn-rhyngwladol-yn-ymgynnull-yn-aberystwyth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/ombwdsmyn-rhyngwladol-yn-ymgynnull-yn-aberystwyth\/","title":{"rendered":"Ombwdsmyn rhyngwladol yn ymgynnull yn Aberystwyth"},"content":{"rendered":"<p>Bydd Ombwdsmyn Gwasanaethau Cyhoeddus o\u2019r DU, Iwerddon a Chatalonia yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 21 Mehefin 2019 ar gyfer seminar ryngwladol ar sut maen nhw\u2019n dal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.<\/p>\n<p>Dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, bydd y seminar arbenigol yn dwyn ynghyd Rosemary Agnew, Swyddog Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban; Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, a Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.<\/p>\n<p>Yn ymuno \u00e2 nhw fydd Peter Tyndall, Llywydd Sefydliad Rhyngwladol yr Ombwdsmon (IOI); Rafael Ribo, Ombwdsmon Catalonia a Llywydd Ewropeaidd yr IOI, a Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<p>Hefyd yn annerch y digwyddiad bydd Dr Richard Kirkham, Prifysgol Sheffield ac Ania Rolewska sy\u2019n ymgeisydd PhD yn y maes hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth<\/p>\n<p>Dyma\u2019r ail seminar i\u2019w drefnu ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, corff annibynnol sydd \u00e2 phwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Bydd y seminar yn canolbwyntio ar y pwerau newydd a roddwyd i\u2019r Ombwdsmon yng Nghymru, sy\u2019n cynnwys pwerau i ddechrau ymchwiliadau ar ei liwt ei hun lle mae tystiolaeth i awgrymu y byddai hynny er budd y cyhoedd.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Elin Royles: \u201cMae\u2019r seminar amserol hwn yn dilyn pasio deddf 2019 Gwasanaethau Cyhoeddus Ombwdsmon (Cymru) ym mis Mai 2019. Mae\u2019n gyfle gwerthfawr i drafod goblygiadau\u2019r pwerau newydd hynny, gan dynnu\u2019n benodol ar \u00a0ddealltwriaeth gymharol o arfer da mewn rhannau eraill o\u2019r DU ac Ewrop. Wrth wneud hynny, gallwn gyfrannu at drafodaethau ehangach ar r\u00f4l yr Ombwdsmon parthed dwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: \u201cMae\u2019r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod \u00e2 chymuned yr Ombwdsmyn ynghyd a rhannu arfer da. Byddwn hefyd yn edrych ar sut gall pwerau newydd fy swyddfa roi mwy o lais i\u2019r rheiny sydd heb lais. Er enghraifft, gwyddom fod pobl weithiau\u2019n amharod neu\u2019n ofn siarad felly bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatau i bobl gwyno\u2019n anhysbys, ac o gwrdd \u00e2\u2019n meini prawf, byddwn ni\u2019n gallu cynnal ymchwiliad. Rwy\u2019n edrych ymlaen at weithredu\u2019r newid cyffrous hwn, ac rwy\u2019n ffyddiog y bydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Bydd \u2018Seminar Arfer Da: Grymoedd a Phosibiliadau Newydd: Yr Ombwdsmon a gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus\u2019 yn dechrau am 09:45 ddydd Gwener 21 Mehefin 2019. Mynediad drwy wahoddiad yn unig.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd Ombwdsmyn Gwasanaethau Cyhoeddus o\u2019r DU, Iwerddon a Chatalonia yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 21 Mehefin 2019 ar gyfer seminar ryngwladol ar sut maen nhw\u2019n dal gwasanaethau cyhoeddus [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":7417,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-7416","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7416","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7416"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7416\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10540,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7416\/revisions\/10540"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7416"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}