{"id":10348,"date":"2024-02-08T11:19:56","date_gmt":"2024-02-08T11:19:56","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=10348"},"modified":"2024-07-02T16:29:51","modified_gmt":"2024-07-02T15:29:51","slug":"themau-allweddol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/themau-allweddol\/","title":{"rendered":"Themau Allweddol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai them\u00e2u allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae Cymru&#8217;n wahanol&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar draws y tri achos, roedd cyfranogwyr yn aml yn s\u00f4n am yr ymdeimlad o arwahanrwydd oddi wrth weddill y wladwriaeth (y Deyrnas Unedig neu Sbaen). Ond mae\u2019r ymdeimlad o hunaniaeth hefyd yn wahanol iawn ym mhob achos, yn ogystal ac ar draws achosion.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru a Catalonia, i rai, roedd cysylltiad cryf rhwng hunaniaeth a iaith a diwylliant. Mynegwyd hyn drwy gyfeiriadau at symbolau diwylliannol, hanes a\u2019r dirwedd, ac roedd ymdeimlad clir o berthyn i\u2019r wlad a chariad tuag ati. Ategwyd y teimladau hyn gan ystod o wahanol brofiadau bywyd: roedd rhai wedi\u2019u geni yn y gwledydd yma ac wedi byw yma am y rhan fwyaf o\u2019u hoes, eraill wedi\u2019u geni y tu allan i\u2019r wlad neu wedi byw dramor. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr iaith Gymraeg a\u2019r Gatalaneg, a oedd yn cael eu ystyried fel pethau i\u2019w dathlu a\u2019u gwarchod.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I eraill yn y ddwy achos yma, roedd yr elfennau diwylliannol yma o hunanieth yn llai pwysig. Yn yr Alban, teimla rhai yn Albaneg ar sail gwerthoedd gwahanol; soniodd eraill am eu hunaniaeth Brydeinig neu hunaniaeth arall. Ar draws y tri achos, fe soniodd nifer am hunaniaeth a oedd yn agored i bawb a ddewisai fyw yn y wlad, heb ots am eu man geni na\u2019u mam-iaith.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ydy hunaniaeth benodol yn effeithio ar sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth?&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil hyd yma yn dangos nad yw\u2019r ffaith bod yr ymwybyddiaeth o wahaniaeth yn golygu bod gan bobl yr un farn yngl\u0177n ag annibyniaeth. I lawer, nid yw\u2019r ffaith eu bod yn teimlo bod eu gwlad yn wahanol yn bwysig wrth feddwl neu deimlo am y pwnc; mae ffactorau eraill yn bwysicach. I eraill, mae eu hunaniaeth yn eu harwain i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am annibyniaeth: naill ai i\u2019w gefnogi neu ei wrthwynebu. Nid oes perthynas hawdd rhwng natur a chryfnder hunaniaeth, a\u2019r ffordd y maent yn meddwl a theimlo am annibyniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ein Gorffennol\/Ein Dyfodol&nbsp;&nbsp;<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil yn y tri achos yn dangos bod profiadau bywyd pobl, a\u2019u barn am wleidyddiaeth a chymdeithas, yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn meddwl am annibyniaeth. Mae hyn yn arwain pobl i feddwl yn wahanol iawn am annibyniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y tri achos, mae rhai yn credu y bydd annibyniaeth yn trawsnewid cymdeithas ac yn creu dyfodol gwahanol a gwell. Mae rhai pobl hefyd yn credu mai annibyniaeth yw&#8217;r unig ffordd o wneud penderfyniadau sy&#8217;n ateb anghenion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y wlad, yn rhydd o ymyraeth y llywodraeth ganolog. Mae\u2019r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu rhwystredigaeth rhai cyfranogwyr gyda\u2019r trefniadau gwleidyddol presennol, ac agwedd y wladwriaeth tuag at y genedl. Mae yna ymdeimlad hefyd o ddadrithiad gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion nad ydynt yn deall y genedl. Soniodd rhai am botensial economaidd annibynniaeth \u2013 a\u2019r cyfle a ddeuai yn ei sgil i ymagwedd wahanol a mwy rhagweithiol at gyflawni twf economaidd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I eraill, mae annibyniaeth yn risg enfawr. Roedd y bobl yma\u2019n pryderu am oblygiadau annibyniaeth i\u2019r economi ac i gymdeithas; soniodd nifer am eu pryder ynghylch meysydd polisi penodol o bwys iddynt megis iechyd a thwf economiadd. Roedd rhai hefyd yn amau a fyddai gwleidyddiaeth wahanol yn bosib yn sgil annibynniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I rai, roedd hanes eu gwlad hefyd yn dylanwadu ar eu syniadau am ei dyfodol. Yn aml, roedd canfyddiad o orthrwm diwylliannol ac ecsploetio economaidd yn gwneud i bobl uniaethu yn gryfach ag annibyniaeth.&nbsp;O\u2019r persbectif yma, ystyrir annibyniaeth fel ffordd o symud ymlaen i\u2019r gorffennol, ac o wneud pethau\u2019n wahanol \u2013 ac yn well.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pen Rheswm \/Gwrando\u2019r Galon<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd pobl yn y tri achos yn pwyso a mesur eu teimladau am annibyniaeth. Roedd gan rai farn glir o blaid neu yn erbyn annibyniaeth. Ond teimlai eraill yn fwy cymysg ac ansicr eu barn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Soniodd rhai am eu gobaith y byddai annibyniaeth yn newid y wlad er gwell, ond hefyd am eu hamheuon a\u2019r peryglon gwleidyddol ac economaidd posibl o fod yn wlad annibynol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml, roedd tensiwn rhwng y ddwy farn yma, y pen a\u2019r galon yn gwthio yn erbyn eu gilydd. Soniodd rai am eu hymrwymiad emosiynol i annibyniaeth \u2013 a hynny\u2019n adlewyrchu eu hunaniaeth a\u2019u balchder dros y genedl. Ond ar yr un pryd, roedd ymwybyddiaeth o\u2019r penderfyniadau anodd y byddai\u2019n rhaid eu gwneud. Roedd yr ansicrwydd ynghylch sut y gellid cyrraedd annibyniaeth, a\u2019r ffaith ei bod hi\u2019n anodd gwybod beth fyddai\u2019r goblygiadau hir-dymor, yn arwain rhai i feddwl nad annibyniaeth yw\u2019r ateb. Roedd eraill yn teimlo\u2019n fwy parod i dderbyn y risgiau a\u2019r ansicrwydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Trafod Annibyniaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y tri achos, soniodd pobl am eu profiadau o drafod dyfodol cyfansoddiadol eu gwlad. Yn yr Alban a Chatalwnia yn arbennig, cyfeiriwyd at yr anhawster trafod y pwnc gyda theulu a ffrindiau: roedd hyn yn anodd o ganlyniad i wahaniaethau barn, ac yn aml fe osgowyd y pwnc yn gyfangwbl.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Eglurodd eraill eu bod yn rhwystredig nad oedd modd cael dadl agored a chytbwys am annibyniaeth. Roedd rhai yn beio\u2019r gwleidyddion a\u2019r cyfryngau am hyn: roeddent yn teimlo fod y pwnc yn cael ei gam-gyflwyno, a bod tuedd i or-symleiddio o blaid neu yn erbyn annibyniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un broblem yw\u2019r diffyg gwybodaeth gwrthrychol am annibyniaeth, y manteision a\u2019r anfanteision. Pwy gellid ymddyried ynddynt i rannu gwybodaeth niwtral am y goblygiadau i\u2019r dyfodol?&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghatalonia, bu tipyn o drafod ar y broses o gynnal refferendwm yn 2017. Roedd rhai yn rhwystredig gydag ymateb gwladwriaeth Sbaen i\u2019r refferendwm, ac yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros annibynniaeth. Ond roedd eraill wedi\u2019u siomi gyda\u2019r broses \u2013 ac yn arbennig gydag ymwrthod gwladwriaethau eraill a\u2019r Undeb Ewropaidd i roi pwysau ar wladwriaeth Sbaen i ganiatau\u2019r refferendwm. Soniodd nifer eu bod wedi laru gyda chyflwr y drafodaeth erbyn hyn, yn ogystal a strategaeth y pleidiau gwleidyddol o blaid annibynniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd y profiad yma ddylanwad wahanol ar wahanol bobl: roedd rhai yn parhau i fod yn gefnogwyr brwd dros annibynniaeth i Gatalonia, ond roedd eraill wedi cael digon o\u2019r pwnc. Cafwyd teimladau tebyg yn yr Alban. Mae rhai yn glir fod angen parhau i ymgyrchu am ail refferendwm ar annibyniaeth; nid yw eraill yn teimlo fod hyn bellach yn flaenoriaeth.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunior-dyfodol\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2024\/02\/Logo_DD_cylchgwyn_2024-1024x1024.png\" alt=\"Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo\" class=\"wp-image-10413\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai them\u00e2u allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth:&nbsp; Mae Cymru&#8217;n wahanol&nbsp; Ar draws y tri [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-10348","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10348","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10348"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10348\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10605,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10348\/revisions\/10605"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10348"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}