{"id":10344,"date":"2024-02-08T11:01:09","date_gmt":"2024-02-08T11:01:09","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=10344"},"modified":"2024-08-20T15:39:31","modified_gmt":"2024-08-20T14:39:31","slug":"sut-cymrun-cael-rhedeg","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/sut-cymrun-cael-rhedeg\/","title":{"rendered":"Sut mae Cymru\u2019n cael ei rhedeg \u2013 nawr ac yn y dyfodol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai&#8217;r wlad gael ei rhedeg. Mae&#8217;r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw\u2019n cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd at 1999, yr Ysgrifennydd Gwladol, a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth y DU ac yn atebol i Senedd San Steffan, oedd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o bolisi domestig Cymru \u2013 ac felly hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.&nbsp;Ym 1999, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, llywodraeth ranbarthol a etholwyd yn uniongyrchol gan bobl Cymru. Roedd hyn yn rhan o raglen ddatganoli ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, a welodd hefyd greu senedd yn yr Alban a chynulliad yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddwyd amrywiaeth o gyfrifoldebau polisi i\u2019r cyrff hyn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb newid sofraniaeth Senedd y Deyrnas Unedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trefniadau cyfansoddiadol Cymru wedi esblygu\u2019n eithaf sylweddol ers 1999. Mae sawl Comisiwn wedi\u2019i sefydlu i archwilio\u2019r trefniadau ar gyfer llywodraethu Cymru: mae\u2019r rhain wedi ystyried a ddylid rhoi pwerau llunio penderfyniadau a phwerau deddfwriaethol i Gymru mewn mwy o feysydd polisi ac ystyried sut i wella\u2019r berthynas rhwng y sefydliadau datganoledig a\u2019r Deyrnas Unedig. O ganlyniad, dros y blynyddoedd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill pwerau newydd i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, i godi trethi ac i newid y dull o ethol. Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i Senedd Cymru yn 2020.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Erbyn heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnig polis\u00efau mewn meysydd sy&#8217;n cynnwys iechyd, addysg, iaith a diwylliant, yr amgylchedd a\u2019r economi a gall gasglu rhai trethi. Mae Senedd Cymru yn deddfu ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae penderfyniadau eraill sy&#8217;n effeithio ar bobl sy&#8217;n byw yng Nghymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn San Steffan. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys amddiffyn, pensiynau, budd-daliadau, cyfiawnder a phlismona, darlledu a&#8217;r rhan fwyaf o drethi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond nid yw&#8217;r newidiadau hyn wedi rhoi diwedd ar drafodaethau yngl\u0177n \u00e2 sut y dylid rhedeg Cymru. Mae digwyddiadau diweddar \u2013 fel Brexit, a phandemig Covid-19 \u2013 wedi rhoi pwysau cynyddol ar weithrediad setliad datganoli Cymru, ac wedi amlygu problemau. Daeth y datblygiadau hyn yn gefndir i rai newidiadau ym marn y cyhoedd wrth i wahanol arolygon ddangos mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2021, cr\u00ebwyd Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar wahanol ffyrdd o redeg Cymru. Fe gasglodd y&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-terfynol?_gl=1*2464nb*_ga*Njg1MzUzODEzLjE3MDcxNDIzMjE.*_ga_L1471V4N02*MTcwNzE0MjMyMC4xLjEuMTcwNzE0MjM4Ny4wLjAuMA..&amp;_ga=2.153555643.2016481055.1707142321-685353813.1707142321\">Comisiwn dystiolaeth<\/a>&nbsp;wrth wleidyddion, arbennigwyr, a dinasyddion ar sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol. Gwerthuswyd tri opsiwn cyfansoddiadol mewn manylder: atgyfnerthu datganoli (cynyddu ac amddiffyn pwerau Senedd Cymru), Cymru\u2019n rhan o Deyrnas Unedig ffederal, ac annibyniaeth. Daeth y Comisiwn i\u2019r casgliad fod y tri opsiwn yma yn hyfyw, ond fod gan bob un gryfderau a gwendidau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth y Comisiwn hefyd nifer o argymhellion ar gyfer cryfhau democratiaeth yng Nghymru ac amddiffyn datganoli yn y tymor byr.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunior-dyfodol\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2024\/02\/Logo_DD_cylchgwyn_2024-1024x1024.png\" alt=\"Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo\" class=\"wp-image-10413\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai&#8217;r wlad gael ei rhedeg. Mae&#8217;r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw\u2019n cynnig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-10344","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10344","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10344"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10344\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10603,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10344\/revisions\/10603"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10344"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}