{"id":10333,"date":"2024-01-24T15:39:26","date_gmt":"2024-01-24T15:39:26","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/?page_id=10333"},"modified":"2024-08-20T15:40:44","modified_gmt":"2024-08-20T14:40:44","slug":"ein-prosiect","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/ein-prosiect\/","title":{"rendered":"Ein Prosiect\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae\u2019r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo yngl\u0177n ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw\u2019n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith academaidd blaenorol sydd wedi astudio agweddau pobl tuag at annibyniaeth wedi canolbwyntio&nbsp;ar geisio deall pam fod pobl yn penderfynu cefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Mae\u2019r gwaith yma gan amlaf yn defnyddio data o arolygon barn, lle gofynnwyd i bobl sut y byddent yn pleidleisio pe cynhelid refferendwm ar annibyniaeth, neu lle gofynnwyd am ddewisiadau unigol ar \u00f4l cynnig rhestr o opsiynau cyfansoddiadol gwahanol, er enghraifft a fyddai&#8217;n well ganddynt ranbarth gyda phwerau cyfyngedig dros feysydd polisi penodol, rhanbarth gyda chryn dipyn o bwerau (e.e. dros blismona neu fewnfudo), neu wladwriaeth annibynnol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r astudiaethau hyn wedi canolbwyntio ar y ffordd mae nodweddion pobl (fel oedran, rhyw a dosbarth cymdeithasol) neu eu hagweddau (fel pa blaid wleidyddol maent yn eu cefnogi, neu sut maent yn diffinio eu hunaniaeth) yn llywio eu barn am annibyniaeth. Mae gwaith o&#8217;r fath yn arwain at gasgliadau ynghylch pa fath o nodweddion sy&#8217;n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Fodd bynnag,&nbsp;mae anghytundeb ynghylch y ffactorau sy&#8217;n ysgogi pobl i gefnogi neu wrthynebu annibyniaeth. Er enghraifft, ceir anghytuno am pa mor bwysig yw hunaniaeth genedlaethol, cwynion (<em>grievances<\/em>), rhagolygon economaidd, neu siarad&nbsp;iaith ranbarthol. Nid yw data&#8217;r yn gallu esbonio chwaith sut mae bywydau bob dydd dinasyddion yn effeithio ar eu profiad ac ar y ffordd y maent yn gwneud synnwyr o annibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r prosiect hwn yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r mater mewn ffordd wahanol. Mae&#8217;n ceisio mynd y tu hwnt i&#8217;r ystyriaeth yngl\u0177n ag annibyniaeth yn nhermau a fyddai pobl&nbsp;yn ei gefnogi neu&#8217;n ei wrthwynebu&nbsp;mewn refferendwm, drwy ymchwilio i feddyliau a theimladau pobl am y pwnc. Beth sy&#8217;n bwysig i bobl pan fyddant yn meddwl am annibyniaeth? Paagweddau o&#8217;u bywydau bob dydd a&#8217;u profiadau bywyd sy&#8217;n dylanwadu ar eu barn yngl\u0177n \u00e2&#8217;r ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu yn y dyfodol?&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn ceisio datblygu trafodaethau amgen ar y pwnc, mae&#8217;r prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth fel sail i gychwyn sgyrsiau am annibyniaeth. Rydym wedi cydweithio \u00e2 chlybiau ffotograffiaeth, myfyrwyr ar gyrsiau ffotograffiaeth, a pobl sy&#8217;n diddori mewn ffotograffiaeth, yn yr Alban, Catalonia a Chymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gofynnwyd i&#8217;r cyfranogwyr dynnu lluniau yn dangos y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth.&nbsp;&nbsp;Yna cynhaliwyd cyfarfod o&#8217;r gr\u0175p lle&#8217;r oedd y cyfranogwyr yn rhannu eu lluniau ac yn egluro eu rhesymau dros dynnu&#8217;r lluniau hynny, yr hyn roeddent eisiau ei fynegi a&#8217;i ddal.&nbsp;&nbsp;Yn olaf, gwahoddwyd y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliadau unigol manwl er mwyn manylu ar y syniadau a&#8217;r profiadau bywyd oedd yn dylanwadu ar y delweddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tynnwyd y lluniau yn yr arddangosfa hon gan gyfranogwyr o wahanol leoliadau yng Cymru, yr Alban a Chatalonia.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r prosiect yn un amhleidiol,&nbsp;ac nid yw&#8217;n&nbsp;hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Mae&#8217;n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o&nbsp;<a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/cy\/project\/ffurfiau-newidiol-ar-lywodraethu-gwleidyddiaeth-llawr-gwlad-ymwahaniaeth\/\">Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC\/WISERD<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\u2019r ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy&#8217;n arwain y prosiect: Anwen Elias, Elin Royles, N\u00faria Franco-Guill\u00e9n a Rhys Jones.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/darlunior-dyfodol\/\">Yn \u00f4l i brif dudalen y prosiect<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2024\/02\/Logo_DD_cylchgwyn_2024-1024x1024.png\" alt=\"Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo\" class=\"wp-image-10413\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae\u2019r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo yngl\u0177n ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-10333","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10333","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10333"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10333\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10599,"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10333\/revisions\/10599"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps2026.cambrianweb.dev\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10333"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}