Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gweithdy – Sesiwn Ffotograffau o Annibyniaeth

September 30, 2023 @ 10:00 - 12:00

Mae ein prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth i ymchwilio i sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. Gallwch gymryd rhan mewn sesiwn yn Galeri, Caernarfon ar ddydd Sadwrn ym mis Medi. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach sy’n ymchwilio i’r pwnc yma yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia.Cyn y sesiwn, tynnwch bedwar llun sy’n adlewyrchu sut rydych chi’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. Yn y sesiwn, byddwch yn trafod y ffotograffau hyn mewn trafodaeth grŵp. Bydd paned a chinio ar gael! Fe hoffem wedyn ofyn i chi siarad mwy am eich lluniau a sut ydych chi’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth mewn cyfweliad ag aelod o dîm y prosiect. Byddwch yn derbyn arweiniad ymarferol a mwy o wybodaeth am y prosiect unwaith y byddwch wedi cofrestru.
Mae’r prosiect hwn yn amhleidiol ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Rydym yn croesawu cyfraniadau pobl â safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal â rhai nad ydynt wedi meddwl am y mater o gwbl.
Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac mae’n rhan o ymchwil Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC/WISERD, Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein prosiect yma.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y digwyddiad yma, os gwelwch yn dda ebostiwch Elin Royles, ear@aber.ac.uk.
Sesiwn Ffotograffau o Annibyniaeth

Details

  • Date: September 30, 2023
  • Time:
    10:00 - 12:00